Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn chwilio am radd a fydd yn meithrin eich sgiliau rhyngbersonol er mwyn gallu rheoli pobl mewn busnes byd-eang, genedlaethol neu leol?
Os oes gennych ddiddordeb yn ochr ddynol rheoli busnes, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol. Rydym yn cwmpasu meysydd o reoli adnoddau dynol clasurol i feysydd yn ymwneud ag arweinyddiaeth a threfniadaeth perfformiad uchel.
Mae'r llwybr hefyd yn rhoi trosolwg i chi o'r heriau cyfreithiol a moesegol sy'n wynebu gweithwyr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol, a'r technegau a ddefnyddir i gyfateb sgiliau a galluoedd i anghenion busnes.
Y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yw'r rhaglen fwyaf sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n enwog am greu rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl yn fasnachol. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i weithio i rai o'r cwmnïau mwyaf yn y byd, gan gynnwys Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg a Tata.
Yn ogystal ag arbenigo mewn rheoli adnoddau dynol, bydd y cwrs Rheoli Busnes hwn yn eich galluogi i feithrin arbenigedd modern hanfodol mewn marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifyddu a strategaeth.