Rheoli Busnes Cymhwysol, FDSc

Gwella eich sgiliau a'ch craffter busnes

Pobl

Trosolwg o'r Cwrs

Prifysgol Abertawe fydd sefydliad dyfarnu'r rhaglen hon a chaiff ei haddysgu gan Goleg Cambria yn ei Ganolfan Rheoli Busnes newydd yn Northop.

Wrth raddio o'r rhaglen hon, bydd gennych sylfaen gref yn yr agweddau ymarferol a damcaniaethol ar reoli busnes cyfoes. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth fanwl a gwerthfawrogiad o faterion sy'n berthnasol i fusnesau lle byddwch yn cael eich cyflogi yn ystod eich astudiaethau.

Bydd y rhaglen Rheoli Busnes Cymhwysol yn addysgu'r sgiliau a'r priodweddau a fydd yn eich galluogi i wneud cyfraniad gwerthfawr at greu economi gynaliadwy, gynhwysol ac arloesol ar gyfer y dyfodol. Nid oes llety preswyl ar gael. Dysgu hyblyg cyfunol 26 diwrnod y flwyddyn academaidd, prynhawn a gyda'r nos (26-hanner diwrnod allan o'r gweithle).

Pam Rheoli Busnes Cymhwysol yn Abertawe?

Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Wrth ddewis y radd mewn Rheoli Busnes Cymhwysol byddwch yn astudio ystod eang o bynciau busnes a rheoli (megis marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifeg, strategaeth a rheoli adnoddau dynol).

Caiff yr holl fodiwlau eu haddysgu gan ein tiwtoriaid busnes blaenllaw sy'n meddu ar wybodaeth ddiwydiannol ac academaidd helaeth ac sy'n hyfforddi rheolwyr busnes o bob rhan o Gymru yn rheolaidd. Mae gan Goleg Cambria gysylltiadau eithriadol o gryf â llawer o fusnesau ac arweinwyr busnes ledled gogledd Cymru, felly mae'n gallu cynnig rhaglen o siaradwyr gwadd, cyflwyniadau a chyfleoedd i rwydweithio. Rydym yn ddarparwr profiadol o lwybrau prentisiaeth, gan gynnwys ar gyfer rheoli busnes. Byddwch yn astudio yn ein Canolfan Addysg Uwch Rheoli Busnes newydd.

Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol i'r myfyriwr sy'n awyddus i ragori a chyrraedd lefel uchaf ymarfer rheoli busnes byd-eang.

Eich Profiad Rheoli Busnes Cymhwysol

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch galluogi i astudio a gweithio ar yr un pryd. Mae'n addas ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddatblygu ei sgiliau busnes a rheoli mewn cyd-destun galwedigaethol. Bydd yn eich galluogi i feithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn busnes a/neu reoli.

Byddwch yn astudio pedwar modiwl ym mlwyddyn 1 (Cyllid, Cyfrifeg a Dadansoddeg, Marchnata, Rheoli Adnodau Dynol a Rheoli Gweithrediadau 1), a phedwar arall ym mlwyddyn 2 (Rheoli Busnes 1, Rheoli Gweithrediadau 2, Prosiect Trefniadaethol 1 ac Arweinyddiaeth a Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol). Cynigir Sylfaen Prince2 hefyd fel opsiwn ychwanegol dewisol yn ystod blwyddyn 2; mae’r cymhwyster rheoli prosiectau hwn yn ased gwerthfawr i gyflogwyr.

Bydd cwblhau'r holl fodiwlau'n llwyddiannus ym Mlwyddyn 1 a 2 yn galluogi myfyrwyr i gyflawni Gradd Sylfaen (yr FdSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol). Wrth gwblhau'r FdSc, byddwch yn gallu symud ymlaen i'r BSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol ym Mlwyddyn 3 lle byddwch yn astudio 3 modiwl (Rheoli Busnes 2, Prosiect Arweinyddiaeth a Sefydliadol 2).

Mae'r modiwlau hyn yn rhoi pwyslais ar Ganlyniadau Dysgu – bydd dau ohonynt yn cael eu datblygu yn seiliedig ar anghenion personol a phroffesiynol rhwng y myfyriwr a'r tiwtor personol. Bydd y canlyniadau hyn yn rhan o gontract dysgu a byddant yn darparu'r sylfaen ar gyfer gwaith cwrs ac asesu, er enghraifft, portffolio o dystiolaeth ac adroddiad ysgrifenedig.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes Cymhwysol

Mae myfyrwyr â gradd Rheoli Busnes yn gyflogadwy iawn oherwydd bod ganddynt yr ystod lawn o sgiliau busnes angenrheidiol. Mae cyfleoedd gyrfaol yn cynnwys cyfrifyddiaeth, marchnata, adnoddau dynol, logisteg, datblygu busnes a gwerthiannau.

Er enghraifft, byddwch yn gallu dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o ddamcaniaethau busnes allweddol; ymateb yn feirniadol i ddadleuon cyfoes; gwerthuso nodau ac effaith polisïau cymdeithasol ac economaidd. 

Oherwydd natur arloesol y cwrs hwn, byddwch yn gallu dysgu ac ymarfer eich sgiliau yn y gweithle ar yr un pryd, gyda chymorth mentoriaid i'ch arwain drwy gydol eich astudiaethau.

Modiwlau

Ymwadiad:  Gallai opsiynau dewis modiwlau newid.

Rheoli Busnes Cymhwysol