MEINI PRAWF CYMHWYSO

Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn disgrifio'r meini prawf cymhwyso ar gyfer talu ffi myfyriwr Cartref (y DU) neu fyfyriwr Tramor.

Bydd eich statws ffïoedd yn aros yr un peth drwy gydol eich cwrs, oni bai bod eich statws mewnfudo wedi newid. Os bydd hyn yn digwydd, bydd gennych hawl i ofyn i’ch statws gael ei ailasesu.

Mae'r meini prawf cymhwyso isod yn berthnasol i ffïoedd dysgu eich cwrs yn unig. Mae'r meini prawf cymhwyso ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr yn wahanol iawn ac os bydd angen cyngor ar gymorth arnoch chi, dylech chi gysylltu â thîm Arian@BywydCampws.

MYFYRWYR NEWYDD

Os ydych chi'n Fyfyriwr Newydd sydd wedi cyflwyno cais i astudio ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig, bydd y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr yn pennu eich statws ffïoedd ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gennych ar eich cais am y cwrs (neu drwy eich cais UCAS) ac ar holiadur asesu ffïoedd y Brifysgol, os yw hynny'n berthnasol. Os ydych chi'n Fyfyriwr Presennol, yna Cyllid Myfyrwyr sy'n pennu eich statws ffïoedd.

Bydd y ffïoedd dysgu y byddwch yn eu talu yn seiliedig ar eich statws ffïoedd:

  • Myfyriwr Cartref
  • Myfyriwr Tramor

Bydd y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr yn cadarnhau yn eich llythyr cynnig a fyddwch yn talu Ffïoedd Dysgu Cartref neu Ffïoedd Dysgu Tramor. Mewn rhai achosion, bydd y tîm yn gofyn am eglurhad pellach i benderfynu ar y statws cywir cyn anfon llythyr 'cynnig' terfynol a/neu mae’n bosib y cewch eich cynghori i ohirio eich astudiaethau nes y gallwch fodloni'r gofynion hanfodol i dalu Ffïoedd Dysgu Cartref.

Gallwch gwblhau eich asesiad ffïoedd drwy amrywiaeth o ddulliau, yr un cyntaf yw eich Porth Dysgwr, y gallwch gael mynediad ato yma.

Os bydd angen cymorth arnoch chi wrth gwblhau eich asesiad ffïoedd drwy'r Porth, edrychwch ar ein Canllaw i'r Holiadur Statws Ffïoedd Myfyriwr isod:

Fee Assessment Learner Gateway Student FSQ Guide

Bydd y Ddogfen Tystiolaeth Gefnogol hon hefyd yn eich helpu gyda chyngor ar y dogfennau byddwn yn gofyn i chi eu darparu er mwyn cwblhau eich asesiad ffïoedd.

Fee Query Support Evidence Document

Neu, os ydych chi'n ddarpar ymgeisydd a hoffech chi wybod eich statws ffïoedd cyn cyflwyno cais, gallwch ddefnyddio ein Holiadur Asesu Ffïoedd arall. Gall hwn gael ei ddefnyddio hefyd gan unrhyw fyfyriwr nad yw wedi gallu cwblhau ei asesiad ffïoedd drwy'r Porth Dysgwr, neu gan fyfyrwyr presennol sydd am gwblhau ailasesiad ffïoedd.

Fee Status Assessment Form

ARWEINIAD

Bydd y ddolen UKCISA ganlynol yn eich cynghori a allwch fod yn gymwys am ffïoedd cartref. Sylwer, mae'r arweiniad hwn yn berthnasol i statws ffïoedd yng Nghymru yn unig: Dod o hyd i'ch statws ffïoedd

EICH STATWS FFÏOEDD

Mae eich statws ffïoedd yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych yn ei darparu.

Os ydych yn cymhwyso am statws ffïoedd Cartref, mae hyn yn golygu y bydd ffïoedd cartref yn cael eu codi arnoch chi. Sylwer, unwaith bydd eich statws ffïoedd wedi ei bennu, hwn fydd y statws ffïoedd a ddynodir i chi am hyd cyfan eich cwrs, oni bai bod eich statws mewnfudo yn newid ac os felly, gallwch ofyn i'ch ffïoedd gael eu hailasesu. Darllenwch yr adran Myfyrwyr Presennol am ragor o wybodaeth.

I gymhwyso am ffïoedd Cartref, bydd angen i chi fodloni meini prawf sawl categori cymhwyso, a bydd angen i chi fodloni'r holl feini prawf mewn unrhyw gategori. Er bod canllawiau UKCISA uchod yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r categorïau, rydym yn trafod y prif gategorïau isod:

PRESWYLYDD SEFYDLOG AM DAIR BLYNEDD YN Y DU AC YNYSOEDD Y DU

Y categori hwn fydd yr un mwyaf perthnasol i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr o'r DU. I gymhwyso o dan y categori hwn, RHAID i chi

  • Feddu ar "statws preswylydd sefydlog" yn y DU - mae hyn yn golygu nad oes unrhyw gyfyngiadau ar hyd yr amser y cewch aros yn y DU. I'r diben hwn, byddai'n rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon, meddu ar hawl preswylio neu ganiatâd amhenodol i aros yn y DU.

a

  • Phreswylio fel arfer yn y DU ers o leiaf tair blynedd cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, e.e. Os ydych chi'n cyflwyno cais i astudio gan ddechrau ym mis Medi 2025, bydd yn rhaid eich bod wedi preswylio fel arfer yn y DU ers cyn 09.22. Hefyd, mae'n rhaid nad addysg amser llawn oedd y prif reswm a'r unig reswm am breswylio yn y DU.

a

  • Phreswylio fel arfer yn y DU ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

MYFYRWYR AMSER LLAWN O'R DU SY'N BYW DRAMOR

Os ydych chi wedi bod yn byw dramor, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth os ydych chi o'r farn mai dros dro oedd yr absenoldeb hwn neu os credwch y gallech feddu ar statws preswylfa arferol deuol. Nid yw hyn yn cynnwys dinasyddion o’r DU sy'n byw mewn Tiriogaethau Tramor Prydeinig. Byddai'r myfyrwyr hyn yn perthyn i'r categorïau Preswylfa yn Gibraltar a Phreswylfa mewn Tiriogaethau Tramor Prydeinig.

Gallwch fod yn absennol dros dro os ydych chi wedi bod i ffwrdd o'r DU am gyfnod estynedig ond wedi dychwelyd i fyw bellach, ond bydd rhaid eich bod wedi cynnal statws preswylfa arferol deuol yn ystod eich absenoldeb o'r DU.

Os nad ydych chi wedi dychwelyd i'r DU ac rydych chi'n dal i fyw dramor, yna bydd angen i chi fod wedi cynnal statws preswylfa arferol deuol drwy gydol eich cyfnod yn byw dramor.

Fel tystiolaeth o statws preswylfa arferol deuol, bydd angen i chi ddarparu i ni fanylion am ba mor aml rydych chi wedi dychwelyd i'r DU (tocynnau hedfan, tocynnau byrddio), manylion am unrhyw eiddo sydd gennych chi yn y DU, a gedwir at ddefnydd y teulu (biliau cyfleustodau, treth y cyngor), manylion am unrhyw aelodaeth o sefydliadau/glybiau yn y DU, neu dystiolaeth o gofrestriad gyda meddyg teulu neu ddeintydd yn y DU.

Gofynnir i chi ateb cwestiynau am eich cyfnod o breswylio dramor ac yn y DU i ni benderfynu'n llawn a oes tystiolaeth ddigonol eich bod wedi preswylio, yn arferol gyson, fel arfer ac yn gyfreithlon yn y DU, yn ogystal â byw dramor.

Ceir rhagor o fanylion am Gyfraith Achosion Preswylfa Arferol yma: Cyfraith achosion preswylfa arferol

MYFYRWYR O'R UE Y MAE'R CYTUNDEB YMADAEL YN BERTHNASOL IDDYNT

Mae'r categori hwn ar gyfer dinasyddion o’r UE/AEE/y Swistir, neu aelod o'r teulu, sydd â "hawliau gwarchodedig" o dan y Cytundeb Ymadael. I gymhwyso o dan y categori hwn, RHAID i chi

  • Feddu ar statws "sefydlog" neu statws "cyn-sefydlog" yn ôl y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

ac

  • Os oes gennych statws "sefydlog", rhaid eich bod wedi preswylio fel arfer yn y DU am y cyfnod tair blynedd llawn cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.

neu

  • Os oes gennych statws "cyn-sefydlog", rhaid eich bod wedi preswylio fel arfer yn y DU/yr AEE/y Swistir am y cyfnod tair blynedd llawn cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.

a

  • Rhaid eich bod yn preswylio fel arfer yn y DU ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs

Sylwer, os addysg amser llawn oedd eich prif reswm dros breswylio yn y DU yn ystod y cyfnod tair blynedd, rhaid eich bod wedi preswylio fel arfer yn y DU/yr AEE/y Swistir/y tiriogaethau tramor (gan gynnwys Gibraltar) y diwrnod cyn dechrau'r cyfnod tair blynedd.

CANIATÂD AMHENODOL I AROS, DIOGELWCH DYNGAROL, STATWS FFOADUR

Bydd angen i fyfyrwyr sydd wedi cael Caniatâd Amhenodol i Aros, neu Ganiatâd i Aros yn ôl statws arbennig, ddarparu eu Côd Rhannu a chopi o'u llythyr gan y Swyddfa Gartref yn dangos pa ganiatâd a roddwyd.

Gan ddibynnu ar y caniatâd a roddwyd, bydd angen i chi fod wedi preswylio fel arfer yn y DU am y cyfnod tair blynedd a bod yn preswylio fel arfer yn y DU ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs. Yr unig eithriad i'r maen prawf preswylio am dair blynedd fydd i'r rhai hynny sy'n meddu ar statws ffoadur neu statws arbennig.

FFYRDD ERAILL O GYMHWYSO AM STATWS FFÏOEDD CARTREF

Mae'r rhestr o bwy sy'n gallu cymhwyso am statws ffïoedd Cartref yn gymhleth. Os nad ydych yn bodloni'r prif gategorïau a restrir uchod darllenwch arweiniad UKCISA am ragor o wybodaeth.

MYFYRWYR TRAMOR

Mae myfyrwyr nad ydynt yn cymhwyso am unrhyw un o'r categorïau uchod yn cael eu categoreiddio fel myfyrwyr Tramor. Fodd bynnag, os ydych chi'n meddwl bod eich statws ffïoedd yn anghywir a dylech gael eich asesu fel myfyriwr Cartref at ddibenion talu ffïoedd, e-bostiwch y tîm Ffïoedd Derbyn i ofyn am ailasesiad.

Gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol, megis:

  • Dyddiad cyrraedd y DU/yr UE/yr AEE/y Swistir
  • Hyd eich caniatâd i aros
  • Dogfennau gan y Swyddfa Gartref mewn perthynas â'ch statws mewnfudo a phreswylfeydd rydych chi wedi byw ynddynt am dros 10 mlynedd
  • Tair blynedd o fanylion cyfeiriad.

Os ydych chi wedi cael cynnig ond heb gwblhau Holiadur Asesu Ffïoedd, ac rydych chi'n credu eich bod wedi cael eich rhoi yn y dosbarth ffïoedd anghywir, dylech gwblhau'r Holiadur Asesu Ffïoedd uchod a'i ddychwelyd i'r tîm Ffïoedd Derbyn.

**PWYSIG**

Gyda phob ymholiad am ffïoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon yr holl dystiolaeth ofynnol gyda'ch Holiadur Asesu Ffïoedd. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn gwblhau eich asesiad ffïoedd yn llawn ac yn brydlon i bennu eich statws ffïoedd cyn i chi ymuno â'r Brifysgol.

 

Myfyrwyr Presennol

Os ydych chi'n fyfyriwr ar hyn o bryd ac mae eich statws mewnfudo, eich dinasyddiaeth neu amgylchiadau penodol eraill wedi newid ar ôl i chi dderbyn eich cynnig a dechrau eich cwrs, gallech chi fod yn gymwys i'ch statws ffïoedd gael ei adolygu.

Y prif amgylchiadau lle gallai hyn fod yn berthnasol yw:

  • rhoddwyd statws Ffoadur i chi (neu aelod o'ch teulu) neu,
  • rhoddwyd statws Diogelwch Dyngarol neu Ganiatâd yn ôl Disgresiwn i chi (neu aelod o'ch teulu) neu
  • rhoddwyd caniatâd i aros drwy lwybrau 10 mlynedd bywyd preifat/bywyd teulu neu Erthygl 8 i chi (neu aelod o'ch teulu)
  • rhoddwyd caniatâd amhenodol i aros i chi (neu aelod o'ch teulu (dim ond o 1 Awst 2025 yn unol â diweddariad UKCISA)
  • rhoddwyd dinasyddiaeth Brydeinig i chi (neu aelod o'ch teulu) (dim ond o 1 Awst 2025 yn unol â diweddariad UKCISA)

Ym mhob achos, rhaid bodloni'r amodau perthnasol, fel y'u nodwyd yn Rheoliadau Addysg (Ffïoedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007, fel y'u diwygiwyd, Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015, fel y'u diwygiwyd.

Am ragor o wybodaeth ac eglurhad, ewch i wefan UKCISA. Yn benodol, bydd y ddolen ganlynol, Find your fee status yn cynnig rhagor o wybodaeth a chyngor ar gyfer astudio yng Nghymru.

Os ydych chi'n bodloni un o'r amodau a amlygir uchod, llenwch Holiadur Asesu Ffïoedd i gyflwyno cais i'ch statws ffïoedd gael ei adolygu. Ar ôl ei gwblhau, sganiwch yr holiadur ynghyd â'r dystiolaeth ddogfennol ofynnol a'u hanfon at Gyllid Myfyrwyr (StudentFinance@abertawe.ac.uk). Caiff eich cais ei adolygu gan gynrychiolwyr o'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr a'r Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr (a all hefyd gysylltu â'ch noddwr ynghylch eich cymhwysedd am gymorth i fyfyrwyr). Cewch eich hysbysu'n ysgrifenedig am ganlyniad eich ailasesiad.

Os ydych chi'n cael eich ailasesu'n llwyddiannus fel statws ffïoedd myfyriwr Cartref, byddwch yn talu'r Ffïoedd Dysgu ar y gyfradd 'gartref' is o ddechrau'r flwyddyn academaidd ganlynol.

POLISI ASESU FFÏOEDD

Mae ein Polisi Asesu Ffïoedd wedi'i atodi er gwybodaeth.

 

CWESTIYNAU CYFFREDIN