Sut rydym yn rhoi cynnig wedi'i warantu i chi
Rydym ni'n cynnig gwarantiad y bydd yr holl ymgeiswyr Israddedig o'r DU yn cael cynnig amodol ar gyfer cwrs ym Mhrifysgol Abertawe os byddant yn astudio'r cymwysterau gofynnol ar gyfer y cwrs maent yn cyflwyno cais amdano.*
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio cyflawniad blaenorol, datganiad personol, rhagamcanion o raddau, geirda a chymysgedd o bynciau i benderfynu ar bob cynnig y byddwn yn ei wneud.
Mae ymgeiswyr sy'n derbyn ein cynnig yn ffurfiol yn elwa o hyblygrwydd o ran y graddau a gyflawnwyd - sy'n golygu os byddwch chi'n ein rhoi ni fel eich dewis cadarn, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau lle i chi astudio yn Abertawe.
Os oes gennych ddiddordeb yn Abertawe ond mae gennych bryderon bod ein cynnig yn rhy uchelgeisiol, neu os oes gennych demtasiwn i dderbyn cynnig gan brifysgol arall, cysylltwch â ni.
* I fyfyrwyr Cartref yn unig y mae cynigion wedi'u gwarantu ar gael. Nid ydynt yn berthnasol i gyrsiau proffesiynol ac mae gweithdrefnau dethol arferol yn berthnasol. Gweler y rhestr o gyrsiau cymwys yn yr adran 'Aflwyddiannus' yn y Cwestiynau Cyffredin isod.