Casglu eich canlyniadau
Mae ‘Cadarnhad’ yn cyfeirio at y cyfnod ym mis Awst bob blwyddyn pan fo'r brifysgol yn derbyn canlyniadau arholiadau TAG Safon Uwch neu gymwysterau eraill ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynigion amodol.
Mae rhestr o'r canlyniadau arholiadau rydym yn eu derbyn yn uniongyrchol gan UCAS ar gael ar wefan UCAS – gwiriwch y rhestr, ac os NAD yw'r gymhwyster rydych chi'n ei chyflawni ar y rhestr, bydd angen i chi anfon y canlyniadau atom yn uniongyrchol drwy e-bost neu yn y post. Bydd angen i chi wneud hyn cyn gynted ag y gwyddech eich canlyniadau er mwyn cadarnhau eich lle yn gyflym, ac er mwyn atal unrhyw oedi wrth ddyrannu eich llety, manylion cofrestru ac ati.