Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu a gwaith lle mae myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu galluogi i gyflawni eu potensial personol.
Os oes rhywbeth yn gwneud i chi deimlo'n anniogel neu mewn perygl, boed ar y campws neu oddi arno, rhowch wybod i ni amdano. Rydym yma i gynnig cyngor ac arweiniad a sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi yn y ffordd sydd orau i chi.
Os oes angen cefnogaeth benodol arnat ti ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl neu'r sbectrwm awtistig (ASC), neu i ddatgelu anabledd, cer i’r tudalennau gwe Lles ac Anabledd er mwyn gweld sut i gyrchu cymorth arbenigol.
Sylwer: Mae'r tîm Lles ac Anabledd yn wasanaeth hunan-atgyfeirio felly bydd angen i chi lenwi Ffurflen Cymorth i Fyfyrwyr i gael mynediad ato.
Hapus - Y Pecyn Cymorth Bywyd Myfyrwyr
Cwrs ar-lein sy'n eich paratoi ar gyfer y Brifysgol.
