Rydym yma i'ch cefnogi yn eich llety ar bob cam o'r ffordd

Pobl yn cofrestru yn ystod Diwrnod Agored 

Cefnogaeth sydd ar gael

Mae symud i rywle newydd yn gyffrous, ond gall fod yn anodd hefyd wrth i chi ymgyfarwyddo, felly gellir tawelu eich meddwl bod rhwydwaith cefnogaeth llawn i fyfyrwyr sy'n byw yn llety'r Brifysgol. Mae ein tîm ymroddedig yma i'ch cefnogi chi.

Mae ein Cydlynydd Bywyd Preswyl a'n Cynorthwywyr Bywyd Preswyl ar gael i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau yn ystod eich amser yn ein preswylfeydd.

Os hoffech chi gael rhagor o gefnogaeth, mae croeso i chi gysylltu â'r Gwasanaethau Preswyl.

Mae Y Tîm Cyngor Arian yn darparu cyngor ac arweiniad ynghylch yr holl faterion ariannol sy'n berthnasol i fyfyrwyr. I nifer o fyfyrwyr, dechrau yn y brifysgol fydd y tro cyntaf iddynt orfod rheoli eu harian eu hunain. Bydd goresgyn yr her hon yn llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd eu potensial llawn wrth astudio ac yn cyfrannu at greu profiad cadarnhaol i fyfyrwyr.

Rydym yn helpu Y Tîm Cyngor Arian i gefnogi myfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal ac yn gweithio'n agos i sicrhau y ceir y cymorth angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion llety, megis llety drwy gydol y flwyddyn.

Gallwn hefyd gynnig, lle y bo'n bosib, ddewis llawn o amrywiaeth helaeth o gategorïau ystafelloedd y Gwasanaethau Preswyl, megis llety sy'n cynnig gwerth am arian neu leoliad cyfleus, pa bynnag lety sydd fwyaf addas ar gyfer eu gofynion unigol.

Mae Tîm Cyngor VISA yn darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion anacademaidd, gan gynnwys gwasanaethau a chyngor ar fewnfudo i'r holl fyfyrwyr rhyngwladol (o'r tu allan i'r DU) a'u dibynyddion.

Mae Y Tîm Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi gwneud datgeliadau, drwy gynnig arweiniad, a chyfeirio at wasanaethau arbenigol, gan esbonio'r opsiynau adrodd sydd ar gael iddyn nhw yn y brifysgol, a chan asiantaethau allanol e.e. yr heddlu. Maen nhw'n cynghori ar bryderon diogelu, ac yn gweithio gyda sefydliadau allanol i ddiogelu myfyrwyr ac eraill sydd mewn perygl.

Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, cysylltwch ag Anableddau am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i sicrhau y gallwch elwa o'r un cyfleoedd â phawb arall. Dyma ragor o wybodaeth am yr opsiynau llety a'r addasiadau sydd ar gael i fyfyrwyr ag anableddau.