Myfyriwr gwrywaidd yn eistedd wrth ei ddesg llety

Wrth gyflwyno eich cais am lety, byddwch chi'n derbyn e-bost cadarnhau sy'n nodi'r dewisiadau rydych chi wedi'u cyflwyno. Gallwch chi olygu eich dewisiadau yn eich cais heb effeithio ar ddyddiad cyflwyno dy gais gwreiddiol.

Mae'ch cais am lety'n cael ei brosesu mewn trefn, yn unol â'r canlynol:

  • y dyddiad rydym yn derbyn cadarnhad gan yr adran Derbyn Myfyrwyr o'ch cynnig diamod i astudio
  • myfyrwyr sydd â gofynion meddygol neu anabledd ychwanegol
  • dyddiad derbyn dy gais

MYNEDIAD YM MIS MEDI:

Rydym yn gwneud ein gorau i gynnig eich hoff ddewis am ystafell wrth ddyrannu lle i chi mewn llety. Os na fydd lle yn eich ddewis llety cyntaf, byddwn yn ystyried eich holl ddewisiadau eraill yn eu trefn nes i ni ddod o hyd i ystafell i chi. Gan fod y preswylfeydd yn amrywio o ran nifer y myfyrwyr y gallan nhw eu cynnwys, ni allwn warantu eich prif ddewisiadau.

Ar ôl cael cynnig o ystafell, bydd gennych chi 3 diwrnod i dderbyn y cynnig a thalu £100 o Flaendal Cadw Lle i sicrhau eich ystafell.


GWEDDILL Y FLWYDDYN ACADEMAIDD:

Rydym yn dyrannu ar sail dyddiad cyflwyno’r cais ac argaeledd ystafelloedd yn unol â'n Polisi Dyrannu.

Bydd ceisiadau i fyfyrwyr sy'n dechrau ar gyrsiau ym mis Ionawr a Mawrth yn cael eu hadolygu o fis Medi a mis Ionawr yn eu trefn. Dylech adael 28 niwrnod cyn i'ch cwrs ddechrau i gael dy gynnig llety.

Efallai bydd rhai myfyrwyr yn cael cynigion cyn rai eraill, ond nid yw hyn yn golygu nad ydych chi wedi cael llety. Efallai bydd yn rhaid i ni lenwi fflat neu ardal neu aros i gynigion a ddyrannwyd eisoes ddod i ben cyn anfon cynigion pellach.

GWYBODAETH BWYSIG

  • Bydd angen gwarantwr arnat os nad ydych chi'n 18 oed cyn dechrau'r denantiaeth. Bydd mwy o arweiniad yn cael ei anfon drwy e-bost, lle bo'n briodol.
  • Myfyrwyr Rhyngwladol: Cyn derbyn cynnig llety, rhaid eich bod wedi cael unrhyw ddogfennau cyfreithiol megis eich fisa/llythyr CAS i astudio. Gallwch chi gysylltu â ni'n uniongyrchol os bydd angen oedi eich cais am lety am y rheswm hwn.