Darllenwch hwn yn ofalus fel bod gennych yr holl wybodaeth am yr hyn rydych chi'n ymrwymo iddo gyda chontract llety:
1. Mae contractau'n eich rhwymo am hyd llawn y Cytundeb Tenantiaeth. Sylwer bod ffioedd yn daladwy fel yr amlinellir yn y contract.
2. Mae amgylchiadau cyfyngedig iawn lle gallwch gyflwyno cais i'r Brifysgol i ofyn i dynnu'n ôl o'ch Cytundeb Tenantiaeth. Er enghraifft, drwy ohirio eich astudiaethau, tynnu'n ôl o'ch astudiaethau neu beidio â dechrau cwrs. Darllenwch ac ystyriwch yr holl delerau a rheoliadau'n ofalus cyn derbyn Cytundeb Tenantiaeth.
3. Sylwer bod telerau eich tenantiaeth yn wahanol i'ch astudiaethau/cyrsiau a'u bod yn drefniad ar wahân.
4. Os ydych chi'n derbyn cynnig ystafell yn llety'r Brifysgol, sylwer na chaiff toriadau o reoliadau'r Llywodraeth a/neu'r Brifysgol eu goddef.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost Prifysgol a gwefan MyUniHub yn aml am yr wybodaeth ddiweddaraf.