Dod o hyd i’ch cartref newydd yn Abertawe
Mae symud i lety'r brifysgol yn rhan gyffrous o'ch taith fel myfyriwr ac i lawer, dyma'r tro cyntaf i chi fyw oddi cartref. Er bod hwn yn teimlo fel cam mawr, mae hefyd yn gyfle anhygoel i gael annibyniaeth, gwneud ffrindiau hyd oes ac ymgolli ym mywyd myfyrwyr. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn meddwl mai byw yn llety'r brifysgol yw un o uchafbwyntiau eu profiadau yn y brifysgol.
I roi tawelwch meddwl i chi, rydym yn gwarantu llety i'r holl fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn astudio olaf, ar yr amod eich bod yn gwneud cais erbyn y dyddiad cau sef 19 Awst. Mae'r gwarant hwn yn cynnig diogelwch i chi, fel bod gennych un peth yn llai i boeni amdano wrth i chi baratoi ar gyfer bywyd prifysgol.
Gall dod o hyd i'r llety cywir wneud byd o wahaniaeth pan fydd hi'n amser ymgynefino a theimlo'n gartrefol. Dyna pam rydym yn cynnig ystod o opsiynau ar gyfer dewisiadau a chyllidebau gwahanol. Hefyd, mae ein tîm Gwasanaethau Preswyl dynodedig yma i'ch cefnogi chi ar bob cam o'r ffordd.
Darganfyddwch pam mai llety'r brifysgol yw'r dewis perffaith i chi.