Mae eich bywyd yn y Brifysgol yn dechrau fan hyn

Mae dewis ble i fyw yn un o'r pethau mwyaf cyffrous am fywyd prifysgol. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau llety i fodloni ffordd o fyw, cyllideb a dewis pawb. Os ydych am ddeffro i weld golygfeydd o'r traeth neu am gael eich amgylchynu gan fwrlwm y ddinas, gallwch ddod o hyd i'r lle perffaith i'w alw'n gartref. 

Pam Dewis Llety Prifysgol Abertawe?

Nid cael rhywle i fyw yw byw yn llety'r brifysgol - mae'n golygu bod yn rhan o gymuned fywiog a chroesawgar

Llety Campws Y Bae

Allwch chi ddychmygu byw ger y traeth! Mae Campws y Bae'n cynnig mynediad uniongyrchol i lan môr a golygfeydd godidog.  Dyma'r hyb ar gyfer yr adran Peirianneg, Rheoli a'r Ffowndri Gyfrifiadol, ond mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw gwrs gan fod gwasanaethau bws uniongyrchol a rheolaidd rhwng y campysau. 
 
Mae'r opsiynau llety'n cynnwys ystafelloedd pâr, en suite, ystafelloedd premiwm ag en suite, ystafelloedd hygyrch a fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Hefyd, gan fod gwasanaethau bws rheolaidd, mae'n hawdd teithio rhwng campysau.

Darganfyddwch fwy am fyw ar Gampws y Bae

Campws Parc Singleton

Yn swatio mewn parcdir cyfoethog ac yn dafliad carreg o'r traeth, mae Campws Parc Singleton yn gartref i'r Ysgolion Diwylliant a Chyfathrebu, y Gwyddorau Cymdeithasol, Seicoleg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Biowyddorau, y Gyfraith a'r Ysgol Feddygaeth. Gallwch fyw'n agos at eich darlithoedd, cyfleusterau chwaraeon, Ysbyty Singleton a Bae Abertawe. Gallwch ddewis ystafelloedd en suite, ystafelloedd safonol sydd ag ystafelloedd ymolchi a rennir ac opsiynau arlwyo.

Mae Campws Parc Singleton yn cynnig ystafelloedd en-suite neu safonol (sydd ag ystafelloedd ymolchi a rennir). Mae rhai preswylfeydd hefyd yn cynnig lwfans arlwyo.

 
Darganfyddwch fwy am fyw ar Gampws Parc Singleton

Llety Campws Y Bae

Mae Tŷ Beck yn cynnwys chwe thŷ Fictoraidd mawr sydd â chymysgedd o lety a rennir, llety en suite a llety hunangynhwysol. 
 
Mae yn ardal Uplands, Abertawe, 1.5 milltir o Gampws Parc Singleton, ac mae siopau, bariau, caffis a bwytai oll o fewn pellter cerdded o Dŷ Beck. Mae maes parcio am ddim gan Dŷ Beck hefyd. 
 
Mae Tŷ Beck yn safle bach a chyfeillgar sy'n opsiwn poblogaidd a fforddiadwy ar gyfer myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr ôl-raddedig, myfyrwyr gwyddor gofal iechyd/meddygol, myfyrwyr rhyngwladol, teuluoedd a pharau.

Darganfyddwch fwy am fyw yn Nhŷ Beck