Myfyrwyr ag Anableddau a Gofynion Arbennig

Rhoddir Blaenoriaeth i Fyfyrwyr ag Anableddau:

Bydd myfyrwyr ag anableddau, cyflyrau meddygol, neu anghenion penodol yn derbyn blaenoriaeth yn ystod y broses dyrannu pan fyddant wedi cysylltu â'r Gwasanaeth Anableddau a Lles ac wedi darparu'r wybodaeth berthnasol i'r tîm sy'n dyrannu llety.

Sut i wneud cais:

Gwnewch cais erbyn 1af Awst:

  • Gallwch wneud cais, p'un ai bod gennych gynnig Diamod, Amodol, Yswiriant neu Glirio gan y Brifysgol
  • Darparwch fanylion o'ch anghenion: Dywedwch wrthym ni ba gymorth mae ei angen arnoch-, boed yn en-suite, oergell ar gyfer meddyginiaeth, cyfleusterau wedi'u haddasu neu leoliad eich llety. Byddwch yn benodol ac yn ffeithiol ac amlinellwch yr addasiadau mae eu hangen arnoch.
  • Cyflwynywch wybodaeth cefnogi: Dim ond gwybodaeth a ddarperir wrth wneud cais ac argymhellion gan weithiwr proffesiynol meddygol mewn perthynas ag addasiadau y gellir eu hystyried wrth ddyrannu ystafelloedd. Rydym yn dyrannu o fis Chwefror bob blwyddyn i fyfyrwyr â chynigion diamod, felly ni fyddwn yn gallu prosesu gwybodaeth ychwanegol nas darparwyd adeg gwneud y cais.

Asesiadau Ychwanegol

Er mwyn cael offer a / neu wneud addasiadau rhesymol, efallai y bydd yn ofynnol i ni gael adroddiad gan Therapydd Galwedigaethol i bennu pa offer yn union y bydd eu hangen. Os bydd hyn yn angenrheidiol, cewch eich hysbysu am hyn gan y tîm llety sy'n ymwneud â'ch cais.