Cyrsiau Hyd Ansafonol

Menyw yn eistedd wrth ddesg ar ei chliniadur gyda`i pethau personol o`i chwmpas

Nid yw pob cwrs yn dechrau ac yn gorffen ar yr un pryd, a bydd hyn yn effeithio ar eich cais am lety. Mae cyrsiau safonol yn para am 42-44 wythnos, sef hyd ‘nodweddiadol’ cyrsiau israddedig. Gallwch wirio dyddiadau eich tymhorau yma.

Os bydd eich cwrs yn dechrau wythnosau cyn y flwyddyn academaidd ‘nodweddiadol’, neu'n para am ran ohoni'n unig, yna gallwn helpu. Bydd angen i chi nodi dyddiadau eich cwrs ar eich cais am lety a gallwn geisio eich helpu drwy gynnig llety addas.

Wrth gyflwyno cais am lety, nodwch ddyddiad dechrau a diwedd eich cwrs er mwyn i ni allu dynodi eich llety'n briodol.

MYFYRWYR YSGOL FEDDYGAETH AC YSGOL IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL PRIFYSGOL ABERTAWE

Rydym yn ceisio darparu llety i alluogi myfyrwyr ar gyrsiau hyd ansafonol i fyw gyda'i gilydd, fel na fyddant yn byw ar eu pennau eu hunain yn y llety ar ddechrau ac ar ddiwedd eu cwrs. Rydym am i chi gael y profiad gorau o fyw yn eich llety a'ch galluogi i fyw gyda myfyrwyr sy'n byw mewn ffordd debyg, a all gynnwys lleoliadau gwaith neu waith sifft.

Mae hyd tenantiaethau ar gyfer y cyrsiau isod yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyrsiau gradd yn y Brifysgol:

Cwrs:
• Ymarfer Uwch
• Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol (Prentisiaeth)
• Graddau Prentisiaeth (Coleg Cambria)
• Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP)
• Astudiaethau Iechyd Cymunedol
• Technegwyr Argyfyngau Meddygol (EMT)
• Ymarfer Parafeddygol Uwch
• Ymarfer Proffesiynol Uwch
• Meddygaeth i Raddedigion (GEM)
• Gwyddor Gofal Iechyd
• Y Gyfraith, Ymarfer Cyfreithiol, Drafftio Uwch, Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LLM)
• Gofal Mamolaeth
• Bydwreigiaeth
• Nyrsio (Oedolion/Plant/Iechyd Meddwl) – Blwyddyn 1
• Therapi Galwedigaethol
• Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau
• Osteopatheg
• Gwyddor Barafeddygol
• Gofal yn ystod Llawdriniaeth
• TAR Gynradd neu Uwchradd gyda Statws Athro Cymwysedig
• Cydymaith Meddygol
• Gwaith Cymdeithasol

Cyflwyno cais:
Wrth gyflwyno cais am lety ar-lein, bydd angen i chi ddewis y canlynol:


• Dan gategori'r cais, dewiswch y canlynol: CYRSIAU GWYDDOR IECHYD (Nyrsys, Gofal Iechyd, etc)

Pe bai'n well gennych beidio â byw gyda myfyrwyr eraill sy'n astudio ar gyrsiau â dyddiadau ansafonol, byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi sicrhau llety amgen rhwng dechrau eich cwrs a phrif gyfnod croesawu myfyrwyr y Brifysgol.

Os bydd angen i chi newid dyddiadau contract, a wnewch chi gysylltu â ni i nodi'r dyddiad newydd, gan amlinellu'r newid gofynnol yn glir, a gallwn geisio eich helpu gyda hyn. Os yw llety wedi'i neilltuo i chi eisoes ac mae'r dyddiadau'n newid, efallai y caiff fflat wahanol ei neilltuo i chi. Mae hyn i sicrhau y byddwch yn dechrau ar yr un pryd â myfyrwyr eraill sy'n astudio ar yr un dyddiadau â'ch cwrs.

Os yw'r cwrs rydych yn ei astudio'n dilyn dyddiadau safonol, yna gallwch gyflwyno cais i fyw mewn unrhyw lety.

 

Myfyrwyr ymweld a chyfnewid