Mae'n hawdd tanbrisio gwerth eich eiddo, ac nid ydym yn siarad am eich gliniadur a'ch ffôn yn unig. Gall eitemau megis eich dillad, sychwyr gwallt a dyfeisiau bach eraill, megis tracwyr ffitrwydd ac oriorau ychwanegu gwerth. Os byddai rhywbeth yn digwydd i'ch eiddo mwyaf pwysig, byddwch eisiau iddynt gael eu disodli - a hynny cyn gynted â phosibl.
Y newyddion gwych yw eich bod wedi'ch diogelu yn eich llety gan bolisi yswiriant eiddo personol gyda Howden for Students, y darparwr yswiriant gorau i fyfyrwyr, heb unrhyw gost ychwanegol.
Cofrestrwch yma i gael mynedia
Beth sydd yn yswiriedig
- Dwyn, tân, a llifogydd i eiddo, gan gynnwys gliniaduron a llechi, y tu mewn i'r llety
- £5,000 o bunnoedd diogelwch yswiriant atebolrwydd tenantiaid ar gyfer gosodiadau a mân daclau llety
- Uchafswm o £5,000 o bunnoedd yswiriedig. Mae cyfyngiadau am eitemau unigol yn berthnasol (gweler dogfennau polisi am ragor o fanylion)
Beth nad yw'n cael ei gynnwys
- Difrod damweiniol a difrod hylifol i eiddo gan gynnwys gliniaduron, llechi, a ffonau symudol
- Mae tenantiaid yn atebol am ddifrod damweiniol i osodiadau a mân daclau'r llety
- Dwyn, colli neu ddifrod pan fydd unrhyw eiddo'n cael eu cymryd y tu allan i'r llety
Unwaith i chi gofrestru gydag ap myfyrwyr Howdens gallwch gael mynediad uniongyrchol at fanylion diogelwch eich yswiriant a dogfennau polisi, yn ogystal â chysylltu â'r tîm hawliadau ar unrhyw adeg.
Mae Howden for Students yn llawn llawer o ddeunydd a gwybodaeth i'ch helpu chi drwy gydol eich amser yn y Brifysgol, gan gynnwys:
- Lles - mynediad at gymorth lles 24 awr am ddim gydag ymgynghorwyr cymwysedig.
- Bywyd myfyriwr - awgrymiadau gorau i wneud y mwyaf o'ch amser yn y brifysgol.
- Diogelu ac arbed - disgowntiau ar yswiriant sy'n gyfeillgar i fyfyrwyr, yn ogystal â mynediad at borth masnachu i gael arian parod am eich hen ddyfeisiau.
- Cyflwyno hawl - mynediad cyflym at borth hawlio ar-lein.
- Chwilota - darganfod mwy am swyddi graddedig, astudiaethau ôl-raddedig, profiad gwaith, cyfleoedd interniaethau a gyrfaoedd.
Rhifau Polisi Yswiriant
Campws y Bae |
HH1109m a HH1109n |
Campws Parc Singleton |
HH1083 |
Tŷ Beck |
HH1083 |
true student |
|
Beth sydd yn yswiriedig (Tân, dwyn a llifogydd) |
Swm yswiriedig |
Cyfanswm yswiriant cynnwys |
£5,000 |
Yswiriant cynnwys i fyfyrwyr anabl |
£6,000 |
Cyfyngiad eitem unigol (oni bai yr amlinellir ar wahân) |
£1,250 |
Cyfanswm offer cyfrifiadurol (e.e. cyfrifiaduron, monitorau) |
£2,000 |
Offer adloniant clywedol/gweledol |
£1,000 |
Offer ffotograffig |
£1,000 |
Pethau gwerthfawr gan gynnwys gemwaith ac oriorau |
£1,000 |
Offerynnau cerddorol |
£600 |
Offer Chwaraeon |
£1,000 |
Dillad (cyfyngiad darn unigol) |
£350 |
Arian |
£50 |
Bwyd sydd wedi'i oeri a'i rhewi |
£75 |
Ailosod cloeon ac allweddi |
£350 |
Adolygwch y Dystysgrif Yswiriant am ragor o fanylion a chymeradwyaeth.