Person yn rhoi cyflwyniad ar raddfa fawr

Gall delweddau ychwanegu at gyflwyniad drwy helpu i esbonio pwynt neu ei wneud yn fwy cofiadwy. Maen nhw hefyd yn gwneud i’ch cyflwyniad ymddangos yn fwy deniadol ac yn fwy diddorol. Serch hynny, ar adegau gall delweddau dynnu oddi wrth gyflwyniad am eu bod yn y lle anghywir neu oherwydd ansawdd gwael.

Mae nifer mawr o adnoddau ar gael ar-lein sy’n cynnig gwybodaeth am elfennau sleid PowerPoint da, a’r ffordd orau o gyflwyno delweddau. Ond dyma dri chanllaw cyflym a hawdd i wneud y gorau o’r delweddau y penderfynwch eu defnyddio.

1. Ystyriwch osod delweddau mewn fframiau

Gall tynnu llinell a/neu ffrâm gysgod o gwmpas eich delwedd ei helpu i ddenu sylw’n fwy effeithiol.

Sleid PowerPoint sylfaenol
Sleid PowerPoint cymharol sylfaenol ond mae cysgod ar y ddelwedd bellach

2. Ystyriwch ddefnyddio’r ddelwedd fel cefndir

Gall hyn wneud i’ch sleidiau edrych yn fwy deniadol a phroffesiynol. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd os yw’r ddelwedd yn cynrychioli’r pwynt yn y sleid mewn modd mwy haniaethol. Fodd bynnag, byddwch yn ofalus bod modd darllen y testun o hyd. Un ffordd o helpu i sicrhau bod y testun yn denu sylw yw ychwanegu petryal tryloyw rhwng y ddelwedd yn y cefndir a’r testun. Gallwch addasu pa mor dryloyw yw’r petryal i sicrhau bod y testun yn fwy amlwg yn erbyn y cefndir.

Sleid PowerPoint sylfaenol
Sleid PowerPoint cymharol sylfaenol ond mae'r ddelwedd bellach yn llenwi'r cefndir

3. Aliniwch y ddelwedd i dynnu sylw

Yn aml bydd ffotograffwyr yn fframio eu delweddau drwy eu rhannu’n draeanau ac yn gosod y prif wrthrych yn y llun ochr yn ochr ag un o’r llinellau fertigol neu orweddol. Gallwch chi wneud yr un peth ar gyfer sleidiau. Y pwyntiau lle mae’r llinellau’n croesi sy’n denu’r sylw mwyaf.

Sleid delwedd sylfaenol ac mae'r ddelwedd yn y cefndir yn gwneud y testun yn anodd ei ddarllen
Sleid PowerPoint sylfaenol yn dangos y rheol traeanau mewn grid. Mae'r testun a'r ddelwedd bellach wedi'u halinio fel bod modd darllen y testun

Mae dylunio sleidiau’n broses oddrychol, ond dwi’n meddwl y gall y canllawiau hyn eich helpu i ddefnyddio delweddau’n well. Rhowch gynnig arnynt yn eich cyflwyniad nesaf a gweld sut mae’n newid.