Mae cyflwyniadau llwyddiannus yn dangos gallu'r siaradwr i ganolbwyntio ar y pwnc a'i gyflwyno'n eglur drwy strwythur rhesymegol a chryno. Bydd dysgu sut i roi cyflwyniad effeithiol yn cynyddu'ch credadwyedd, yn eich helpu i esbonio eich syniadau'n glir ac yn cynyddu eich hyder. Pan fyddwch yn teimlo'n hyderus, rydych chi'n fwy tebygol o gysylltu â'r gynulleidfa, gofyn cwestiynau treiddiol a derbyn adborth gwerthfawr.
Sut i wella eich cyflwyniadau
Fel unrhyw aseiniad academaidd, mae'n hanfodol eich bod yn gwneud gwaith darllen neu ymchwil cefndirol i gefnogi eich cyflwyniad. Ar gyfer cyflwyniad, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio am faint y bydd yn rhaid i chi gyflwyno, ble a phryd y cynhelir y cyflwyniad, ac a oes angen i chi fod yn barod ar gyfer cwestiynau hefyd.
Sut i wella eich cyflwyniadau
Magu hyder i siarad mewn gwers
Fel myfyriwr, beth yw’ch ofn mwyaf? Byddai methu arholiadau ac asesiadau’n debygol o fod ar frig y rhestr ar gyfer llawer. Ond beth am bryderon yn eich bywyd o ddydd i ddydd fel myfyriwr?
Awgrymiadau am Fagu Hyder i Siarad yn y Dosbarth
Nodweddion pwysig o gyflwyniad
Mae'n rhaid i lawer o bobl roi cyflwyniadau am bob math o resymau ac yn aml nid y cynnwys sy'n peri problemau ond popeth arall! Felly gadewch i ni ganolbwyntio ar elfennau pwysig eraill cyflwyniad.
Nodweddion pwysig o gyflwyniad