Mae cynifer o adnoddau defnyddiol ar y rhyngrwyd sy’n gallu eich helpu i ddysgu Saesneg ond pan siaradaf â dysgwyr mae’n amlwg nad yw llawer o bobl yn gwneud y defnydd gorau o’r hyn sydd ar gael. Isod ceir rhestr o bum ap a gwefan ddefnyddiol sy’n gallu gwella eich sgiliau yn y Saesneg.
Quizlet
Dyma wefan ac ap sy’n eich galluogi i greu ‘cardiau fflach’ ar gyfer geiriau neu ymadroddion. Mae cerdyn fflach yn gerdyn sy’n nodi’r gair neu’r ymadrodd ar un ochr a’r ystyr ar yr ochr arall. Mae hyn yn ddefnyddiol i’ch helpu i gofio geirfa newydd. Gallwch lawrlwytho’r ap Quizlet i’ch ffôn. Pan ddewch o hyd i eirfa newydd gallwch ei ychwanegu i’r rhestr eirfa a chynnal gweithgareddau gwahanol i brofi eich hun. Gall y gweithgareddau brofi dealltwriaeth o ystyr, sillafu ac ynganu.
Evernote
Wrth i chi ddarllen neu glywed geirfa newydd mae’n ddefnyddiol i chi ei hysgrifennu mewn llyfr nodiadau. Yn hytrach na defnyddio pen a phapur, erbyn hyn, gallwch ddefnyddio Evernote, sef llyfr nodiadau ar gyfer eich ffôn. Mae’r ap Evernote yn eich galluogi i wneud nodiadau trwy ysgrifennu, siarad neu dynnu lluniau. Yna gallwch edrych ar eich nodiadau’n rhwydd ar eich ffôn i adolygu’r eirfa newydd.
Lyrics Training
Dyma wefan sy’n gallu helpu eich sgiliau gwrando a sillafu. Mae llawer o ganeuon Saesneg (ac ieithoedd eraill) arni. Gallwch wrando ar y caneuon a darllen geiriau’r caneuon ar yr un pryd. Fodd bynnag ceir bylchau lle y mae’r geiriau ar goll ac mae’n rhaid i chi lenwi’r bylchau trwy deipio’r geiriau coll. Os nad oes modd i chi lenwi’r bylchau bydd y gân yn stopio. Dyma ffordd hwyl i ymarfer eich dysgu.
LibriVox
Dyma wefan sydd â llyfrau sain am ddim a gallwch eu defnyddio er mwyn ymarfer eich sgiliau gwrando. Gallwch hefyd chwilio am fersiwn destun y llyfr a darllen a gwrando ar yr un pryd. Gall darllen a gwrando ar yr un pryd eich helpu i ddysgu sut i ynganu geiriau a’ch helpu i ddeall strwythur yr iaith yn well.
6 minute English
Mae hon yn rhan o wefan y BBC ar gyfer dysgu Saesneg. Mae ganddi lawer o drafodaethau sydd wedi’u recordio a phob un yn para am ryw 6 munud. Mae’r trafodaethau wedi’u dylunio i’ch helpu i ddysgu geirfa newydd. Gallwch lawrlwytho’r podlediad a gwrando arno ar eich ffôn. Hefyd mae trawsgrifiad ar gyfer pob trafodaeth felly gallwch ddarllen a gwrando ar yr un pryd.
Mae’r holl declynnau hyn ar gael i’w defnyddio a’u lawrlwytho am ddim. Efallai y bydd yn cymryd amser i chi ddod i’r arfer â’u defnyddio ond ar ôl i chi ddechrau gwneud yr ymdrech i’w defnyddio siŵr o fod y byddant yn dod yn rhan o’ch arferion bob dydd ac yn eich helpu i wella eich geirfa a’ch sgiliau. Gosodwch darged o roi cynnig ar ddefnyddio un yn rheolaidd am wythnos neu ddwy a gweld beth ddaw ohoni!