Dogfen Word ar gyfrifiadur â geiriau arni

Os ydych chi fel llawer o fyfyrwyr eraill, y peth cyntaf sy’n eich taro chi ar ôl derbyn teitl traethawd newydd yw rhywbeth tebyg i 'Sut ar y ddaear ydw i’n mynd i ysgrifennu 2,500 o eiriau am hynny!?' Ond unwaith y byddwch chi'n dechrau arni, mae'n ymddangos bod eich problem yn gwbl groes i hynny - allwch chi ddim dweud popeth sydd angen ei ddweud mewn 2,500 o eiriau!

Y broblem hon sydd gan lawer o'r myfyrwyr sy'n dod i'n gweld mewn apwyntiadau un i un. Maen nhw wedi gorffen drafft, ac angen colli geiriau – weithiau cymaint â 1,000 a mwy!

Yn aml iawn, gellir datrys y broblem heb newid prif elfen y ddadl neu heb golli unrhyw bwyntiau pwysig. Bydd y rhan fwyaf o awduron, boed yn nofelwyr proffesiynol, yn athrawon sy'n cyflwyno papur neu'n fyfyrwyr yn ysgrifennu traethawd hir, yn ysgrifennu gormod mewn drafft cyntaf bob amser. Gall prawfddarllen trylwyr, gwirio a oes geiriau diangen ac ailadrodd helpu i leihau'r cyfrif geiriau yn sylweddol.

(Dyma pam ei bod bob amser yn syniad da gorffen eich traethodau o leiaf ddiwrnod cyn y dyddiad cau).

Bin ger y traeth

Geiriau diangen

Mae hyn yn golygu defnyddio geiriau nad oes eu hangen. Mae rhai myfyrwyr yn gwneud hyn oherwydd eu bod nhw'n teimlo ei fod yn swnio'n fwy academaidd, ond does dim byd academaidd am wastraffu geiriau. Dyma rai enghreifftiau cyffredin:

Roedd y papur yn gyfanswm o ddwy ochr ar bymtheg o ddalenni.

Gwell: Roedd y papur yn ddwy ochr ar bymtheg.

Dadl arall a wneir yn ysgrif Smith hefyd yw…

Gwell: Dadl arall yn ysgrif Smith yw…

Cynhaliodd y gwyddonwyr adolygiad o…

Adolygodd y gwyddonwyr

Gallwn ni weld o'r enghreifftiau uchod ein bod ni'n aml iawn yn defnyddio llawer mwy o eiriau nag sydd eu hangen arnom ni i wneud pwynt. Drwy wneud dim mwy na chyfrif cyfanswm y gwahaniaeth rhwng y fersiwn wreiddiol a'r fersiwn wedi'i gwella uchod rydyn ni wedi colli 10 gair. Gall mynd trwy eich traethodau yn y modd hwn a gofyn i chi eich hun a yw pob gair yn hanfodol i ystyr brawddeg arwain at ganlyniadau annisgwyl. Rhowch gynnig arni y tro nesaf y byddwch chi dros y terfyn geiriau!

Rhesi o gadeiriau ar draws theatr

Ailadrodd

Os ydych chi'n recordio ac yn trawsgrifio sgwrs lafar, un o'r pethau y byddwch chi'n sylwi arno yw'r nifer o weithiau rydyn ni'n ailadrodd yr un pwynt, weithiau mewn geiriau gwahanol, weithiau gan ddefnyddio'r un geiriau. Mae hyn yn naturiol wrth siarad, gan ein bod yn awyddus i'n pwyntiau gael eu deall, ac mae angen i'r rhan fwyaf o bobl glywed rhywbeth mwy nag unwaith i brosesu'r wybodaeth. Nid felly mewn ysgrifennu academaidd. Er y bydd angen i chi atgoffa'r darllenydd o brif ddadl eich traethawd, a sut mae'n ymwneud â'r teitl fwy nag unwaith, dylech chi osgoi ailadrodd yr un pwynt drosodd a throsodd. Edrychwch ar y paragraff canlynol a gweld faint o enghreifftiau o ailadrodd diangen y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw.

114 o eiriau

Mae yna lawer o resymau pam mae polisïau economaidd Japan wedi arwain at chwalfa canol y nawdegau, gan gynnwys gorwario gan asiantaethau'r llywodraeth, benthyca gormodol gan fanciau ac agwedd bod 'y swigen yn rhy fawr i fyrstio' (Smith 2003). O'r llu o resymau dros weld y swigen yn byrstio yn y pen draw a chwalfa economi Japan, fodd bynnag, mae un yn aml yn cael ei anwybyddu, sef; allanoli llawer o ddiwydiant y wlad i wledydd Asiaidd eraill. Felly pam y dewisodd Japan ddechrau gweithgynhyrchu mewn gwledydd eraill yn Asia, a pham yn aml nad yw pobl yn ystyried allanoli llafur wrth edrych ar y rhesymau y tu ôl i chwalfa canol y nawdegau?

76 o eiriau

Mae yna lawer o resymau pam mae polisïau economaidd Japan wedi arwain at chwalfa canol y nawdegau, gan gynnwys gorwario gan asiantaethau'r llywodraeth, benthyca gormodol gan fanciau ac agwedd bod 'y swigen yn rhy fawr i fyrstio' (Smith 2003). Mae un rheswm, fodd bynnag, yn cael ei anwybyddu’n aml: allanoli llafur i wledydd Asiaidd eraill. Felly pam wnaeth Japan ddewis gwneud hyn, a beth yw'r rheswm mae astudiaethau'n parhau i'w anwybyddu fel rheswm dros y chwalfa?

Er bod popeth yn y paragraff uchod yn gwneud synnwyr, gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd o'i dynhau heb os. Mae'r syniad o'r chwalfa neu'r swigen yn byrstio yn cael ei ailadrodd dair gwaith, fel y mae'r syniad bod Japan wedi allanoli ei gweithgynhyrchu. Mae'r ffaith bod hyn yn cael ei anwybyddu mewn dadansoddiadau yn aml yn cael ei grybwyll ddwywaith. Byddai ail ddrafft yn gweld yr awdur yn disodli ymadroddion a ailadroddir gyda geiriau cyfeirio fel 'hwn' neu'n syml ddileu ailadrodd diangen.

Mae'r gostyngiad yn nifer y geiriau a gafwyd trwy ddileu'r ailadrodd tua 30%!

Os ydych chi'n cael trafferth ffitio popeth yn y cyfrif geiriau, efallai mai’r ateb fyddai mynd trwy eich traethodau yn chwilio am ailadrodd a geiriau diangen!