llun o Daniel Cooke.

Daniel Cooke

Myfyriwr trydedd Flwyddyn, BEng Peirianneg Awyrofod

Daniel ydw i ac rwyf yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Peirianneg Awyrofod. Gyda deallusrwydd artiffisial yn datblygu mor gyflym, mae mor bwysig sicrhau bod uniondeb academaidd yn cael ei gynnal. Yr hyn a'm hysbrydolodd i wneud y rôl hon oedd y gallu i gwrdd â phobl newydd a helpu fy nghyd-fyfyrwyr. Y tu hwnt i'm hastudiaethau, rwy'n gefnogwr pêl-droed brwd, yn dilyn Nottingham Forest ar draws y wlad.

llun o Nandini Kathpalia.

Nandini Kathpalia

Myfyriwr ail flwyddyn, BSc Cyfrifeg a Chyllid

Helô! Nandini ydw i, myfyriwr Cyfrifeg a Chyllid yn fy ail flwyddyn sy'n angerddol am helpu eraill i ddeall pwysigrwydd gonestrwydd a thegwch yn eu hastudiaethau. Fe ddes i'n Llysgennad Uniondeb Academaidd oherwydd fy mod yn credu bod uniondeb yn adeiladu'r sylfaen ar gyfer dysgu gwirioneddol a thwf personol. Y tu hwnt i'r byd academaidd, rwy'n dwlu dawnsio, cynllunio digwyddiadau diwylliannol hwylus, a chysylltu â phobl o gefndiroedd amrywiol!

Llun o Ahmad Danish.

Ahmad Danish

Myfyriwr trydedd flwyddyn, BSc Rheoli Busnes

Helô, Amhad Danish ydw i! Fe ddes i'n Llysgennad Uniondeb Academaidd oherwydd fy mod yn credu mai gonestrwydd a gwreiddioldeb yw sylfaen dysgu gwirioneddol a thwf personol. I mi, mae uniondeb academaidd yn golygu gwneud y peth iawn, hyd yn oed pan nad oes neb yn gwylio. Rwy'n gwerthfawrogi ymdrech, chwilfrydedd a thegwch ym mhopeth a wnawn. Y tu hwnt i fy astudiaethau, rwy'n mwynhau archwilio diwylliannau newydd, chwarae badminton, criced a gweithio ar brosiectau digidol creadigol.

Llun o Sodipe Fikayo.

Sodipe Fikayo

Ymgeisydd PhD mewn Rheoli Busnes

Rwy'n falch o wasanaethu fel Llysgennad Uniondeb Academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, lle rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo arferion academaidd moesegol ac arwain myfyrwyr tuag at ragoriaeth. Mae fy nghymhelliant yn deillio o awydd i helpu myfyrwyr i ddeall gwerth uniondeb a phwysigrwydd osgoi camymddygiad academaidd. Rwy'n credu y bydd y rôl hon nid yn unig yn cyfoethogi fy nhaith addysgol  ond hefyd yn cyfrannu'n ystyrlon at feithrin diwylliant o onestrwydd a chyfrifoldeb yng nghymuned y Brifysgol.

Y tu hwnt i'm gwaith academaidd, rwy'n mwynhau darllen a gwylio ffilmiau.

Llun o Aled Jones

Aled Jones

Myfyriwr MSc  Rheoli (Busnes Cynaliadwy)

Ar hyn o bryd rwy'n astudio MSc Rheoli (Busnes Cynaliadwy) yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Fe ddes i'n Llysgennad Uniondeb Academaidd oherwydd ei fod wedi caniatáu i mi weithio'n agos gyda fy narlithwyr; mae fy nghyd-fyfyrwyr hefyd wedi gofyn am fy nghyngor. Ers dechrau fy nghwrs, roeddwn i wedi bod i ffwrdd o'r byd academaidd am naw mlynedd ac roedd angen i mi ddysgu'r rheolau sy'n ymwneud ag uniondeb academaidd o'r dechrau. Rwy'n gobeithio helpu pobl sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg i mi, ochr yn ochr â myfyrwyr sydd heb wybodaeth flaenorol am uniondeb academaidd.

Y tu hwnt i fy astudiaethau, rwy'n dwlu gwylio ffilmiau clasurol. Fy ffefryn yw'r clasur o 2001, A Space Odyssey  gan Stanley Kubrick. Rwy'n mwynhau chwarae gemau fideo hefyd ac mae hyn yn fy helpu i ymlacio o'm hastudiaethau.

Llun o Mandar Shailendra Ghandi.

Mandar Shailendra Ghandi

Myfyriwr MSc  Peirianneg Awyrofod

Helô, Mandar ydw i. Ar hyn o bryd rwy'n astudio am fy radd MSc mewn Peirianneg Awyrofod yng Nghyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe.

Fe ddes i'n Llysgennad Uniondeb Academaidd oherwydd fy nghariad at ryngweithio cymdeithasol. Mae'r rôl hon yn caniatáu i mi hysbysu fy nghyd-fyfyrwyr am bwysigrwydd Uniondeb Academaidd yn eu hastudiaethau prifysgol. Mae bod yn rhan o'r tîm hefyd wedi caniatáu i mi ddysgu am yr amrywiaeth o adnoddau y mae'r brifysgol yn eu cynnig i'r myfyrwyr er mwyn sicrhau llwyddiant academaidd, sydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol yn fy astudiaethau.

Y tu hwnt i'm hastudiaethau, rwy'n unigolyn sydd â diddordebau amrywiol; rwy'n ffotograffydd amatur ar wyliau, yn gogydd ar ddydd Sul, yn awdur pan fyddai'n cael fy ysbrydoli, ac yn athronydd ar nosweithiau braf.

Llun o Astha Patro.

Astha Patro

Myfyriwr 2il flwyddyn,BSc Cyfrifiadureg Deallusrwydd Artiffisiial

Helô, Astha ydw i! Fe ddes i'n Llysgennad Uniondeb Academaidd (AIA) i helpu myfyrwyr i ddeall gwerth gonestrwydd, tegwch a chyfrifoldeb yn eu taith academaidd. Fel Llysgennad Uniondeb Academaidd, rwy'n cymryd rhan weithredol wrth greu ymwybyddiaeth o onestrwydd trwy ymgyrchoedd, stondinau dros dro, sesiynau ar-lein, a digwyddiadau fel Wythnos y Glas a Diwrnod Rhyngwladol Uniondeb Academaidd. Mae fy rôl hefyd yn cynnwys cydweithio â llysgenhadon eraill, datblygu deunyddiau deniadol, a chyfathrebu â myfyrwyr i wneud y cysyniad o onestrwydd yn fwy perthnasol a hygyrch.

Y tu allan i'm rôl, rwy'n ddawnswraig hyfforddedig gyda dros ddegawd o brofiad, yn gogydd sy'n dwlu ar greu seigiau sy'n codi gwên, yn frwdfrydig dros deithio, ac yn ffotograffydd sy'n caru estheteg. Rwy'n mwynhau archwilio diwylliannau newydd, treulio amser gyda ffrindiau, teithio, chwaraeon, a chofleidio pob cyfle i ddatblygu a dysgu.

Llun o Pravek Sharma.

Pravek Sharma

Myfyriwr MSc Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial)

Helô, Pravek Sharma ydw i. Rwy'n astudio MSc Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial) yn yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe. Mae gen i radd baglor mewn cyfrifiadureg a gradd meistr blaenorol mewn deallusrwydd artiffisial.

Des i'n Llysgennad Uniondeb Academaidd oherwydd fy mod yn credu mai gonestrwydd, tegwch a pharch yw sylfaen dysgu ystyrlon a thwf personol. I mi, mae uniondeb academaidd yn golygu aros yn driw i'ch gwerthoedd, rhoi clod lle mae'n ddyledus, ac ymdrechu'n barhaus i ddysgu yn y ffordd gywir - nid y ffordd hawdd yn unig.

Y tu hwnt i'm hastudiaethau, rwy'n gerddwr brwd sydd wedi dringo'r Wyddfa yn ddiweddar, ac rwy'n dwlu ar chwarae chwaraeon fel hoci maes, badminton a nofio. Rydw i hefyd yn dwlu chwarae gemau ar-lein ac yn mwynhau ymlacio ar y PlayStation yn fy amser rhydd. Rwy'n hoffi darllen llyfrau dirgelwch ac antur, a chyfres Hardy Boys yw un o fy ffefrynnau.

Llun o Purushottam Kumar.

Purushottam Kumar

Myfyriwr MSc Gweinyddu Busnes

Helô, Purushottam Kumar ydw i. 

Mae'n anrhydedd i mi ymuno â rhaglen Llysgenhadon Uniondeb Academaidd Prifysgol Abertawe. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i hyrwyddo amgylchedd academaidd teg, gonest a thryloyw yn y brifysgol. Mewn oes lle gall technolegau newydd, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, alluogi camymddygiad academaidd a lledaenu gwybodaeth ffug, mae cynnal egwyddorion ymchwil ac uniondeb academaidd wedi dod yn hanfodol ar gyfer llwyddiant myfyrwyr.

Fel myfyriwr rhyngwladol a chyn-ymgynghorydd, rydw i wedi neilltuo amser i ddeall manylion uniondeb academaidd er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau cywir a’u cefnogi i wneud penderfyniadau moesegol. Mae dysgu ysgrifennu'n effeithiol yn gwneud uniondeb academaidd yn ail natur, heb ymdrech ychwanegol i osgoi llên-ladrad. Drwy hyrwyddo uniondeb, fy mwriad yw meithrin amgylchedd lle mae dysgu'n ffynnu a lle mae gan bawb gyfle cyfartal i lwyddo.