Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn darparu gwasanaethau gwybodaeth o ansawdd uchel i staff a myfyrwyr, yn ogystal ag i'r cyhoedd, ac rydym yn datblygu'r gwasanaethau hyn yn gyson i gefnogi gweithgareddau dysgu, addysgu, ymchwil a chorfforaethol y Brifysgol. Mae'r Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Chasgliadau yn cynnig amgylchedd cyfforddus, eang i astudio ac ymchwilio ynddo, ac mae ein staff cyfeillgar a phroffesiynol yn darparu ystod gynyddol o gymorth, hyfforddiant a gwasanaethau pwnc i sicrhau bod holl ddefnyddwyr y Llyfrgell yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael.

Archebu Mannau Astudio
I gadw lle yn y llyfrgell, boed hynny ar gyfer astudio mewn grŵp, astudio'n unigol neu i archebu cyfrifiadur, edrychwch ar ein hargaeledd a chadw lle yma.

Benthyca o'r llyfrgell
Mae popeth sydd angen i chi ei wybod am fenthyca adnoddau yma. P'un a ydych chi eisiau llyfrau, cyfnodolion, ffilmiau neu hyd yn oed gliniadur dros dro tra byddwch chi'n astudio yn y llyfrgell.