Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys casgliad sylweddol o ddeunyddiau sy'n ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen a rôl gwirfoddolwyr o Gymru, yn eu plith llawer o lowyr o faes glo De Cymru a oedd yn weithgar yn wleidyddol. Mae hefyd yn cynnwys deunydd ynghylch ymateb rhai cymunedau glofaol i'r achos Gweriniaethol a'r gefnogaeth a ddarparwyd ganddynt.
Mae Casgliad Maes Glo De Cymru wedi'i rannu rhwng Archifau Richard Burton a Llyfrgell Glowyr De Cymru, a chedwir eitemau gwahanol sy'n ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen yn y ddau leoliad.
Archifau Richard Burton:
Cardiau post, llythyrau a gohebiaeth arall rhwng unigolion a sefydliadau
Ffotograffau o unigolion a grwpiau a oedd yn rhan o'r gwrthdaro, gan gynnwys plant Basgaidd a oedd yn ffoaduriaid.
Llyfrau cofnodion a dogfennau eraill a oedd yn nodi ymateb sefydliadau megis Ffederasiwn Glowyr De Cymru i'r gwrthdaro.
Taflenni a hysbyslenni
Cofiannau
Llyfrau lloffion, cartwnau ac eitemau amrywiol eraill
Llyfrgell Glowyr De Cymru:
Hanesion llafar
Llyfrau a chylchgronau
Pamffledi
Posteri
Cyfweliadau ar fideo a recordiadau ffilm eraill
Am ganllaw manwl i'r deunydd sy'n ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen, cysylltwch â'r Archifau.