Mae gan bob maes pwnc Ganllaw Llyfrgell i gefnogi eich astudiaethau a'ch ymchwil. Mae'r Tîm Cymorth Academaidd yn cynnal y canllawiau hyn ac adnoddau hunangyfeiriedig eraill. Maent hefyd yn addysgu ac yn cefnogi sgiliau llythrennedd digidol a gwybodaeth trwy ddarlithoedd wedi'u hymgorffori mewn amserlenni, y Rhaglen Sgiliau Llyfrgell, ac ymgyrchoedd penodol. Bydd y rhain yn eich helpu i:
- Dod o hyd i lyfrau, e-lyfrau ac erthyglau cyfnodolion addas ar gyfer eich anghenion astudio ac ymchwil
- Chwilio cronfeydd data ac adnoddau am lenyddiaeth berthnasol
- Dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ar-lein
- Deall sut i gyfeirio ac osgoi llên-ladrad
Am ragor o wybodaeth a chymorth, ewch i'n tudalen Canllawiau Llyfrgell.