I ble y dylid dychwelyd benthyciadau llyfrgell?
Gellir dychwelyd y rhan fwyaf o eitemau'r llyfrgell i unrhyw un o'n safleoedd llyfrgell, pa bynnag llyfrgell le gwnaethoch chi eu benthyg. Gwiriwch yr oriau agor cyfredol ar gyfer y safle le rydych am ddychwelyd eich eitemau. Ni ellir dychwelyd eitemau pan bod yr adeiladau ar gau.
Sylwch: rhaid dychwelyd gliniaduron a benthyciwyd o'r loceri gliniadur yn Llyfrgelloedd Parc Singleton a'r Bae i'r un llyfrgell le gwnaethoch chi fenthyg y gliniadur.
Sut i ddychwelyd eitemau i'r llyfrgell
Mae ciosgau hunan-dychwelyd eitemau ar gael yn Llyfrgell Parc Singleton, Llyfrgell y Bae, Llyfrgell y Glowyr De Cymru a Llyfrgell Parc Dewi Sant. Dyma'r ffordd fwyaf hawdd a chyflym i ddychwelyd eich eitemau, a gallwch hefyd dewis cael derbynneb dychwelyd o'r ciosg drwy e-bost.
Gellir dychwelyd y rhan fwyaf o fenthyciadau o'r llyfrgell drwy'r ciosgau hunan-dychwelyd, ond rhaid dychwelyd rhai eitemau i ddesg y llyfrgell, gan gynnwys:
Gellir dychwelyd eitemau i ddesg y llyfrgell yn ystod oriau agor y ddesg yn unig.
Dychwelyd eitemau drwy'r post
Os nad ydych yn gallu dychwelyd eitem yn bersonol i'r llyfrgell, gallwn hefyd derbyn rhai dychweliadau drwy'r post. Cyfrifoldeb y benthyciwr yw'r tâl post. Cysylltwch â thîm Llyfrgell MyUni yn gyntaf, os oes angen i chi dychwelyd eitem drwy'r post.
Dychwelyd yn hwyr
Os rydych yn dychwelyd eitemau ar ôl eu dyddiad dyladwy, mae'n bosib cewch eich dirwyo. Mae dirwyon hwyr yn berthnasol i bob dosbarth benthycwyr, gan gynnwys staff academaidd. Gweler yr adran Dirwyon a thaliadau llyfrgell isod am fwy o wybodaeth am ddirwyon hwyr.
Os nad ydych yn gallu dychwelyd eitem erbyn y dyddiad dyladwy, gofynnwn i chi i gysylltu â thîm Llyfrgell MyUni cyn gynted ag sy'n bosib, gan efallai bydd effaith ar ddefnyddwyr eraill y llyfrgell y mae angen defnyddio'r eitem arnynt.
Os oes gennych chi amgylchiadau esgusodol sy'n eich rhwystro rhag dychwelyd eitem yn brydlon, rhowch wybod i ni cyn i'r eitem dod yn orddyledus os gwelwch yn dda.