Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe (SUTC)
Mae Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe (SUTC) yn wasanaeth trawsgrifio ymroddedig sy’n darparu adnoddau dysgu hygyrch i fyfyrwyr ag anabledd print.
Mae ein tîm o Gydlynwyr Trawsgrifio yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Anableddau ac adrannau academaidd i ddarparu'r fformatau hygyrch canlynol ar eich cyfer:
- testun electronig (MS Word, PDF chwiliadwy)
- print bras
- braille
- sain
- diagramau cyffyrddol
Beth mae'n my fyrwyr yn dwend:
"... mae'r cymorth trawsgrifio wedi bod o gymorth enfawr ac mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i'm llif gwaith"
"Dim ond am ddweud eich bod oll yn wych. Marciau llawn am eich help a'ch cymorth. Roeddech mor gefnogol wrth i mi ofyn am bethau. Diolch yn fawr ichi"