Ein Gwasanaethau Llyfrgell Cynhwysol

Mae'r llyfrgell yn cefnogi'r brifysgol yn ei hamcan i wireddu potensial yr holl fyfyrwyr a staff beth bynnag fo'u nodwedd warchodedig (oedran, rhyw, hil, ailbennu rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd a chred).

Gall yr holl fyfyrwyr ddefnyddio ein gwasanaeth Cais a Chasglu. Gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i ddiwallu anghenion y rhai sy'n ddysgwyr rhan-amser, yn byw ymhell o'r campws, yn dysgu wrth weithio, ar leoliad gwaith, yn anabl neu y mae ganddynt gyfrifoldebau gofalu.