Y tu allan i gyfnodau Mynediad Cyfyngedig, rydym yn croesawu ymelwyr i lyfrgelloedd campws Parc Singleton a'r Bae, llyfrgell Banwen a Llyfrgell Glowyr De Cymru yn ystod oriau staff. Gwiriwch ein tudalennau gwe Oriau Agor a Lleoliadau Llyfrgelloedd ar gyfer y llyfrgell rydych chi am fynd i.
Bydd mynediad i adeiladau'r llyfrgell Prifysgol Abertawe yn gyfyngedig i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe ac aelodau Mynediad SCONUL yn unig, yn ystod y cyfnodau canlynol:
Ni threfnir unrhyw gyfnodau mynediad cyfyngedig ar hyn o bryd.
Yn ystod cyfnodau mynediad cyfyngedig, bydd ymchwilwyr yn dal i allu ymweld â Llyfrgell y Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton drwy apwyntiad. Hefyd, caniateir benthycwyr allanol gael mynediad i'r llyfrgell i ddychwelyd eitemau, os oes ganddynt fenthyciadau a bydd yn dod yn ddyledus yn ystod y cyfnod mynediad cyfyngedig.