Llyfrgell Parc Singleton
Llyfrgell Parc Singleton
Oriau agor a manylion cyswllt
Pryd rydym ni ar agor?
Oriau Agor Llyfrgell Parc Singleton
Oriau Agor Llyfrgell Parc Singleton
O 1-28 Medi, 2025
Dyddiau | Oriau agor adeilad y llyfrgell | Oriau agor Desg Llyfrgelloedd a Chasgliadau |
---|---|---|
Dydd Llun i dydd Gwener | 08:00 - 20:00 | 09:00 - 17:00 |
Dydd Sadwrn i dydd Sul | 12:00 (canol dydd) - 20:00 | Ar gau |
O fis Hydref ymlaen (yn cwmpasu Semester 1)
Dyddiau | Oriau agor adeilad y llyfrgell | Oriau agor Desg Llyfrgelloedd a Chasgliadau |
---|---|---|
Dydd Llun i dydd Gwener | 08:00 - 00:00 (canol nos) | 09:00 - 17:00 |
Dydd Sadwrn i dydd Sul | 12:00 (canol dydd) - 20.00 | Ar gau |
Cyfnod asesu mis Ionawr*:
Dyddiau | Oriau agor adeilad y llyfrgell | Oriau agor Desg Llyfrgelloedd a Chasgliadau |
---|---|---|
Dydd Llun i dydd Gwener | 07:00 - 02:00 | 09:00 - 17:00 |
Dydd Sadwrn i dydd Sul | 08:00 - 00:00 (canol nos) | Ar gau |
* Bydd yr oriau hyn yn rhedeg am y tair wythnos adeg-tymor cyn ac yn ystod cyfnod asesu mis Ionawr. Caiff gwybodaeth bellach ynghylch cyfnod asesu mis Mai ei gyfathrebu yn 2026.
Mae cymorth o bell ar gyfer Gwasanaethau Llyfrgell ar gael drwy gysylltu â ni drwy'r sianelau canlynol:
- Ffoniwch Lyfrgell MyUni ar +44 (0)1792 606400
Mae ein llinell ffôn ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb - 5yp. - Cysylltwch â ni drwy ein Llyfrgelloedd a Chasgliadau
Mae Sgwrsio Fyw gyda'r tîm Llyfrgell MyUniar gael rhwng yr oriau canlynol:
Dydd Llun i ddydd Gwener: 8yb - 5yp
Dydd Sul: 12yp - 8yh
Sylwch, ni fydd tîm Llyfrgell MyUni ar gael i sgwrsio ar ddydd Sadwrn, ond mae ein sgwrsfot Llyfrgell MyUni hefyd ar gael 24/7 i helpu gydag ymholiadau cyffredin.
- E-bostiwch Dîm Llyfrgelloedd a Chasgliadau
Cedwir golwg ar ein blwch e-bost rhwng yr oriau canlynol:
Dydd Llun i ddydd Gwener: 8yb - 5yp
Dydd Sul: 12yp - 8yh
Sylwch, ni fydd y blwch e-bost yn cael ei fonitro ar ddydd Sadwrn.
Gwasanaethau Llyfrgell
Gellir defnyddio'r gwasanaethau isod trwy hunanwasanaeth fel y ganlyn:
Gwasanaeth |
Lleoliad |
Gwneud cais am a benthyg eitemau llyfrgell |
Gall myfyrwyr a staff cyfredol pori silffoedd y llyfrgell a benthyg eitemau drwy'r terfynellau Hunan-Fenthyca, sydd wedi'u leoli gyferbyn â'r Ddesg Gwybodaeth. Gellir hefyd gwneud cais am neu adalw eitemau drwy ddefnyddio ein . |
Dychwelyd llyfrau |
Gellir dychwelyd eitemau'r llyfrgell drwy ddefnyddio'r derfynell Hunan-Ddychwelyd, sydd wedi'i leoli ger y Ddesg Gwybodaeth. Gellir dychwelyd Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd i staff wrth y Ddesg Gwybodaeth, yn ystod oriau agor y Ddesg Gwybodaeth. |
Benthyciadau gliniaduron |
Gellir benthyg gliniaduron o'n Loceri Gliniadur yn Llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton (yn amodol ar argaeledd). Gweler ein tudalen Loceri Gliniaduron am fwy o wybodaeth am fenthyg a dychwelyd gliniaduron. |
Mannau astudio |
Mae yna fannau astudio/CP neilltuadwy a mynediad agored ar gael yn Llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton. Gellir defnyddio mannau sydd wedi'u nodi fel 'Mynediad Agored' yn y llyfrgell ar unrhyw adeg heb orfod archebu. Gweler ein tudalen am wybodaeth am sut mai archebu man neilltuadwy. |
Ymholiadau Llyfrgell Gyffredinol |
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth ar : E-bostiwch Dîm Llyfrgelloedd a Chasgliadau neu ffoniwch +44 (0) 1792 (60)6400 |
Ymholiadau Llyfrgell sy'n benodol i'ch pwnc |
Gweler ein Canllawiau Llyfrgell Gallwch hefyd sgwrsio gyda llyfrgellydd ar-lein trwy ddefnyddio'n wasanaeth Holi Llyfrgellydd ar y gwefan Canllawiau Llyfrgell |
Dyddiadau Mynediad Cyfyngedig i'r Llyfrgell ar gyfer Ymwelwyr Allanol
Y tu allan i gyfnodau Mynediad Cyfyngedig, rydym yn croesawu ymelwyr i lyfrgelloedd campws Parc Singleton a'r Bae, llyfrgell Banwen a Llyfrgell Glowyr De Cymru yn ystod oriau staff. Gwiriwch ein tudalennau gwe Oriau Agor a Lleoliadau Llyfrgelloedd ar gyfer y llyfrgell rydych chi am fynd i.
Bydd mynediad i adeiladau'r llyfrgell Prifysgol Abertawe yn gyfyngedig i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe ac aelodau Mynediad SCONUL yn unig, yn ystod y cyfnodau canlynol:
Ni threfnir unrhyw gyfnodau mynediad cyfyngedig ar hyn o bryd.
Yn ystod cyfnodau mynediad cyfyngedig, bydd ymchwilwyr yn dal i allu ymweld â Llyfrgell y Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton drwy apwyntiad. Hefyd, caniateir benthycwyr allanol gael mynediad i'r llyfrgell i ddychwelyd eitemau, os oes ganddynt fenthyciadau a bydd yn dod yn ddyledus yn ystod y cyfnod mynediad cyfyngedig.
Lleoliad y llyfrgell
Ble mae Llyfrgell Parc Singleton?
Lleolir Llyfrgell Parc Singleton ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe.
Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau i Gampws Parc Singleton ar ein tudalen Sut i Ddod o Hyd i Ni.
Adeilad rhif 7 yw Llyfrgell Parc Singleton, ar y Cynllun Campws Parc Singleton.
Sut i gysylltu â ni
Ein manylion cyswllt
Llyfrgell Parc Singleton
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn: +44 (0)1792 (60)6400