Bwrsarïau Mynediad at Fathemateg Carol Vorderman
Mae Adran Fathemateg Prifysgol Abertawe yn falch iawn o allu cynnig naw Bwrsari Mynediad at Fathemateg Carol Vorderman (gwerth £2,000) i ymgeiswyr am ein rhaglenni gradd israddedig mewn Mathemateg neu Wyddor Actiwaraidd a fydd yn dechrau astudio gyda ni ym mis Medi 2024.
Rydym yn gwahodd ceisiadau am y bwrsarïau hyn gan yr holl ymgeiswyr o'r DU am raglenni israddedig amser llawn mewn Mathemateg neu Wyddor Actiwaraidd a fydd yn ymuno â Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2024. Bydd y ceisiadau'n cael eu hasesu gan banel dethol a fydd yn ystyried cefndir yr ymgeiswyr a'u hatebion i gyfres o gwestiynau ynghylch yr hyn sy'n eu cymell i astudio mewn prifysgol, syniadau o ran ysbrydoli eraill i fwynhau mathemateg, a dyheadau gyrfaol. I adlewyrchu cefndir a diddordebau Carol, rydym yn annog ymgeiswyr o Gymru neu/ac o gefndiroedd dan anfantais yn arbennig i wneud cais.
Ganwyd Carol yng Nghymru ac fe aeth i ysgol a oedd yn cael ei hariannu gan y wladwriaeth ym Mhrestatyn. Yna, wedi'i hysbrydoli gan ei hathro mathemateg, aeth i astudio Peirianneg yng Nghaergrawnt fel un o lond llaw yn unig o ferched a oedd yn astudio'r pwnc bryd hynny. Rhannodd Carol ei brwdfrydedd ynghylch mathemateg gyda'r wlad gyfan pan ddaeth yn gyflwynwraig ar y rhaglen deledu hynod boblogaidd, Countdown, ym 1982, ac arhosodd yno am 26 o flynyddoedd. Ers hynny, mae Carol wedi parhau i ysbrydoli pobl ifanc, athrawon a rhieni i fwynhau mathemateg drwy ei sgyrsiau, llyfrau a gwaith elusennol.
Dyddiad cau: 1 Medi, 2024