Golygfa o do'r adeilad o'r Athrofa Gwyddor Bywyd

Athrofa Gwyddor Bywyd

Agorwyd drysau adeilad cyntaf yr Athrofa Gwyddor Bywyd (ILS1) yn 2007 a chafodd ei alw'n un o drysorau Cymru oherwydd ei weledigaeth i ddatblygu ymchwil feddygol er budd iechyd, cyfoeth a llesiant pobl Cymru. Mae'r cyfleuster chwe llawr pwrpasol hwn ym mhen gorllewinol campws Singleton y Brifysgol yn werth £52 miliwn ac mae mewn lleoliad strategol rhwng yr Ysgol Feddygaeth ac Ysbyty Singleton.

Athrofa Gwyddor Bywyd 1

Golygfa o'r Athrofa Gwyddor Bywyd

Agorodd Athrofa Gwyddor Bywyd 1 yn 2007. Yn yr adeilad gosgeiddig hwn mae atriwm uchder llawn, ac mae'n defnyddio deunyddiau mewn ffordd greadigol i fanteisio i'r eithaf ar olau naturiol. Mae iddo chwe llawr, ac mae'n cynnwys labordai ymchwil arloesol, cyfleusterau hybu busnes pwrpasol i'n sefydliadau cleient a chaffi hamddenol ei naws lle y gall staff a myfyrwyr ryngweithio a rhannu syniadau. O ddydd i ddydd, bydd 200 o arbenigwyr ym maes ymchwil ac addysgu gwyddor feddygol, datblygu busnes a throsglwyddo technoleg yn gweithio yno.

Athrofa Gwyddor Bywyd 2

Mynediad ILS2

Mae Athrofa Gwyddor Bywyd 2 (ILS2) yn gartref i nifer o gyfleusterau ymchwil allweddol gan gynnwys y Ganolfan NanoIechyd, sef cyfleuster Ymchwil a Datblygu mynediad agored arbennig gwerth £22 miliwn ar gyfer datblygu gofal iechyd drwy ddefnyddio nanodechnoleg, Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd (JRCF) sy'n canolbwyntio ar driniaethau meddygol arloesol ar gyfer salwch cyffredin, Cyfleuster Delweddu Clinigol (CIF). Hefyd yn ein hadeilad ILS2 mae nifer o unedau ‘deori’, sy'n cynnig gofod i'w rentu i fusnesau newydd sy'n gweithio ym maes Gwyddor Bywyd.

Tenantiaid a Cyswllt

Tenantiaid a Chynllun Cyswllt

Gallwch rentu desg neu swyddfa yn un o’n hadeiladau, neu cofrestru fel Aelod Cyswllt, i fod yn rhan o’n rhwydwaith bywiog o fusnesau o’r un meddylfryd ym maes gwyddorau bywyd.

SUSIM

Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi

Mae’r Ganolfan Efelychu a Dysgu Trochi yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau addysg sy'n seiliedig ar efelychiad i gefnogi dysgwyr i fyfyrio a datblygu mewn sefyllfaoedd byd go iawn.

NISH

Rhwydwaith Cenedlaethol Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd yn dod â thechnoleg chwaraeon, technoleg feddygol ac iechyd gofal ynghyd, gan feithrin amgylchedd delfrydol ar gyfer arloesi a datblygu syniadau.

Uned Treialon Abertawe

Uned Treialon Abertawe

Mae STU yn cynnig cyngor a chymorth i dimau clinigol wrth gynllunio treialon newydd ac wrth wneud cais am grantiau. Yna maent yn gweithio i ddatblygu, cychwyn, cynnal, rheoli, dadansoddi ac adrodd ar astudiaethau.

Gwyddor Data Poblogaeth

Gwyddor Data Poblogaeth

Mae Gwyddor Data Poblogaeth yn faes cynyddol ac amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar gasgliadau o unigolion a'u profiadau biolegol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Technoleg Dadansoddol

Technoleg Dadansoddol

Mae Technoleg Dadansoddol yn defnyddio sbectrometreg màs i ddadansoddi offer confocal a samplau fferyllol, biotechnoleg a gweithgynhyrchu.

Sefydliad AWEN

Sefydliad AWEN

Daeth Sefydliad Awen ag ymchwilwyr blaenllaw, pobl hŷn a'r diwydiannau creadigol ynghyd i gyd-greu cynnyrch, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio. Mae ei weithgareddau nawr yn cael eu prif ffrydio yn NISH.

Canolfan Technoleg Iechyd

Canolfan Technoleg Iechyd

Mae Canolfan Technoleg Iechyd yn dod â phartneriaid o ddiwydiant, y byd academaidd, a'r GIG ynghyd o fewn y lleoliad gwyddorau bywyd a gofal iechyd i ysgogi ymchwil ac arloesi i ddatblygu, gwerthuso a defnyddio technolegau newydd.

Cyfleuster Delweddu Clinigol

Cyfleuster Delweddu Clinigol

Mae Cyfleuster Delweddu Clinigol yn hwyluso ymchwil glinigol mewn cynhyrchion fferyllol o fewn oncoleg, cymhwyso MRI yn glinigol a datblygu llwybrau clinigol sy'n seiliedig ar ddelweddau.

Academi Iechyd a Llesiant

Academi Iechyd a Llesiant

Mae’r Academi Iechyd a Llesiant yn cynnig gwasanaethau fel osteopathi, awdioleg, a chardioleg, gan ddefnyddio cryfderau ymchwil y Brifysgol ar gyfer addysgu o safon uchel a chadarnhau buddion cymunedol.

Canolfan Economeg Iechyd Abertawe

Canolfan Economeg Iechyd Abertawe

Mae SCHE yn canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso dulliau economeg iechyd i faterion ‘bywyd go iawn’ mewn polisi a darpariaeth gofal iechyd.

Cyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd

Cyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd

Nod JCRF yw cynyddu a darparu astudiaethau ymchwil clinigol o fewn y bwrdd iechyd trwy werthuso meddyginiaethau, gweithdrefnau a dyfeisiau newydd.

Beth sy'n digwydd yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd?