Adeilad Grove yw cartref gwreiddiol yr Ysgol Feddygaeth, ac ynddo mae amrywiaeth o gyfleusterau addysgu a chyfleusterau i fyfyrwyr. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae rhaglen i addasu ac ailwampio'r adeilad wedi gwella'r amgylchedd dysgu i'n myfyrwyr a'n staff.
Labordy Anatomeg
Caiff ein Labordy Anatomeg ei ddefnyddio gan ein Myfyrwyr Meddygaeth, ein Cydymeithion Meddygol a'n Myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Cymhwysol. Mae'r Labordy'n lle perffaith i addysgu ac i ddysgu'n annibynnol. Hefyd, mae model cyfrifiadurol 3D ar gael fel y gall myfyrwyr archwilio Anatomeg Ddynol yn fanwl.
Labordy Anatomeg Glinigol
Mae ein Labordy Anatomeg Glinigol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Meddygaeth a Chydymeithion Meddygol gael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu maes am ochr glinigol anatomeg, gan eu helpu i ddeall yr hyn y dylent fod yn chwilio amdano mewn lleoliad clinigol. Mae'r Labordy'n galluogi myfyrwyr i gael eu haddysgu mewn grwpiau llai ac archwilio themâu a syniadau ymhellach.
Ystafell Gyfrifiaduron
Mae ein Hystafell Gyfrifiaduron ar gael i'n holl fyfyrwyr ei defnyddio rhwng darlithoedd i gwblhau eu haseiniadau ac ymchwilio mewn amgylchedd gwaith tawel. Yn aml, gwneir llawer o ddefnydd o'r ystafell yn ystod cyfnodau arholiadau a chyn terfynau amser aseiniadau. Mae'r ystafell yn lle gwych i fyfyrwyr ddod ynghyd wrth weithio ar brosiectau grŵp.
Ystafell Dulliau Clinigol Integredig
Caiff yr Ystafell Dulliau Clinigol Integredig ei defnyddio gan ein Cydymeithion Meddygol a'n Myfyrwyr Meddygaeth. Mae cynllun y gofod addysgu hwn yn debyg i ward mewn ysbyty, sy'n galluogi myfyrwyr i ddysgu mwy am ymarfer clinigol ac ymgyfarwyddo â lleoliadau clinigol.