Rydym ni’n ymrwymedig i ehangu mynediad at ein cyrsiau gofal iechyd a chlinigol. Rydym ni’n gwneud hyn drwy ddarparu cynigion cyd-destunol i fyfyrwyr o amrywiaeth eang o brofiadau, cefndiroedd a lleoliadau. Mae ein hymrwymiad i ehangu mynediad yn deillio o ddealltwriaeth bod cael clinigwyr amrywiol yn darparu gofal clinigol yn gwella profiadau cleifion. Mae ein hymagwedd yn sicrhau bod ein graddedigion, p’un ai eu bod nhw’n dod o gefndir amrywiol neu’n astudio ymhlith carfan amrywiol, wedi’u paratoi’n well ac yn gallu deall a chydymdeimlo â’r cleifion sy’n dod atynt.
Gwella Mynediad At Yrfaoedd Gofal Iechyd
Cynigion Cyd-Destunol
Meddygon I Gymru
Meddygon i Gymru yw ein strategaeth i ddatblygu a bod yn “Ysgol Feddygol i Bawb yng Nghymru.” Nod graidd y strategaeth hon yw bodloni anghenion gweithlu Cymru drwy weithio gyda’n partneriaid yn GIG Cymru, Llywodraeth Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW).
Ewch i Feddygon i GymruCylchoedd Gofal Iechyd
Mae’r rhaglen Cylchoedd Gofal Iechyd yn rhaglen ehangu mynediad a sefydlwyd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Chyngor Ysgolion Meddygol y DU a’r Bartneriaeth Cyrhaeddiad Ehangach, i fentora myfyrwyr graddedig, israddedig a Safon Uwch sy’n paratoi i ddechrau gyrfa mewn meddygaeth.
Ewch i Cylchoedd Gofal IechydCymorth dysgu digidol
Mae'r cynllun Cymorth Dysgu Digidol, mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yn cefnogi myfyrwyr ar gyrsiau cymwys Prifysgol Abertawe, i dderbyn gliniadur am ddim i gefnogi eu hastudiaethau.
Cymorth dysgu digidolBwrsariaeth Dr Sharon James
Mae bwrsariaeth Dr Sharon James yn cynnig pedair bwrsariaeth o £1,200 i fyfyrwyr benywaidd o Gymru sy'n astudio cwrs clinigol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
Ewch i Fwrsariaeth Dr Sharon James