Cefnogi eich astudiaethau gofal iechyd

laptop with hands typing

Cymorth Dysgu Digidol

Fel rhan o'n hymrwymiad i ehangu mynediad at ein cyrsiau gofal iechyd a chlinigol, mae Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) wedi ymrwymo i ddarparu cymorth dysgu digidol i fyfyrwyr sy'n bodloni'r meini prawf a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, rydym yn falch o allu cynnig gliniadur i'ch helpu i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Sylwer na chewch liniadur oni bai eich bod yn fyfyriwr sy'n hanu o Gymru ac sy'n byw yn y isaf (20%) o ardaloedd a ddiffinnir gan feini prawf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Pa help gallaf ei gael?

Bydd myfyrwyr sy'n astudio un o'n rhaglenni a gomisiynwyd (Gwyddorau Gofal Iechyd, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Parafeddygaeth, Gwyddoniaeth Barafeddygol, Therapi Galwedigaethol ac Ymarfer yr Adran Lawdriniaeth), sy'n bodloni'r meini prawf a nodir, yn gallu cyflwyno cais am liniadur a brynwyd drwy'r Brifysgol i gefnogi eu hastudiaethau. Bydd y gliniadur a ddarperir yn llyfr HP Elitebook â gwarant am 3 blynedd. 

Two students sat at a table, one of which has a laptop