Croeso i bedwerydd rhifyn y cylchgrawn Pulse.
Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio ein hymchwil, dysgu ac addysgu i gael effaith. Croeso i bedwerydd rhifyn y cylchgrawn Pulse.
Mae ein hymchwil a’r effaith a gaiff ar y byd yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â heriau byd-eang er mwyn gwella iechyd, cyfoeth a llesiant ein cymdeithas. Mae cryfder ein cymuned ymchwil yn ein pobl a'u huchelgais am ragoriaeth.
Trwy weithio ar y cyd, mae ein hymchwilwyr dawnus yn gwthio ffiniau yn eu meysydd. Yn dyst i’r ymroddiad hwn, gwelwyd ansawdd ein hymchwil yn cael ei gydnabod y llynedd gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2021), gydag 85% o’n hymchwil yn cael ei raddio’n fyd arweiniol neu’n rhagorol yn rhyngwladol yn gyffredinol. Mae hyn nid yn unig yn trosi i ganlyniadau gwell i gleifion, ond hefyd caiff effaith aruthrol ar ein haddysgu a phrofiad ein myfyrwyr.
Mae canlyniadau tablau cynghrair, cenedlaethol a rhyngwladol, yn parhau i amlygu cryfderau ar draws ein tair Ysgol, yn ymwneud ag ansawdd ymchwil, rhagoriaeth addysgu, cyflogadwyedd graddedigion, rhagolygon graddedigion a boddhad myfyrwyr un flwyddyn ar ôl y llall.
Rydym wedi ymfalchïo’n fawr wrth edrych yn ôl ar lwyddiannau ein staff a’n myfyrwyr fel ei gilydd – ar lefelau academaidd a phersonol. Bydd y rhifyn hwn o Pulse yn rhoi cipolwg i chi ar rywfaint o’r gwaith anhygoel sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a mawr obeithiaf y gallwch weld eich hun yn rhan o’n cymuned wych yn y dyfodol.
Yr Athro Keith Lloyd
Dirprwy Is-Ganghellor, Deon Gweithredol
Cyfadran Meddygaeth Iechyd a Gwyddor Bywyd