Mae Brewing Brilliance yn gyfres o bodlediadau sy'n dod â lleisiau ysbrydoledig ynghyd o bob rhan o'r Brifysgol, gan daflu goleuni ar ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil i Heneiddio Iach a Chyflyrau Cronig.
Ym mhob pennod, rydym yn siarad ag ymchwilwyr sy'n ysgogi ymagweddau rhyngddisgyblaethol at gefnogi bywydau iachach a gwella rheolaeth cyflyrau cronig.
Yn fwy na phodlediad, mae Brewing Brilliance yn gyfrwng cysylltu - yn gyfle i gydweithwyr yn y Sefydliad a'r tu allan iddo rannu gwybodaeth, sbarduno syniadau a meithrin cydweithrediadau sy'n gallu llywio dyfodol ymchwil iechyd.
Pennod 2 : Mae gan Rachel Churm ddiddordeb yn y menopos, gordewdra a diabetes
Pennod 1 : Dr James Murray, biocemegydd sydd â diddordeb mewn clefydau sy'n gysylltiedig â heneiddio
Cwrdd â'r cyflwynydd
Mae Adrianne Cleverly yn Ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arbenigo mewn heneiddio iach a chyflyrau cronig. Hi yw crëwr a chyflwynydd y gyfres bodlediad Brewing Brilliance, a gynhyrchir mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Ymchwil Heneiddio'n Iach a Chyflyrau Cronig.
Mae gwaith Adrianne yn pwysleisio pontio'r bwlch rhwng ymchwil academaidd a chymhwyso yn y byd go iawn. Yn ddiweddar, mae hi wedi cyflwyno ei hymchwil yn nigwyddiad Chwaraeon, Ymarfer Corff a Pheirianneg Prifysgol Abertawe.
Gwrandewch ar Brewing Brilliance i ddarganfod sut mae ymchwil ac arloesi yn dylanwadu ar ddyfodol heneiddio'n iach.