Croeso gan Bennaeth ein Hysgol
Croeso gan yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Cyn i chi gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau ymchwil, beth am gofrestru i'n Diwrnod Agored Rhithwir?
Croeso gan yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Cyn i chi gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau ymchwil, beth am gofrestru i'n Diwrnod Agored Rhithwir?
Mae 4 thema ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth i gwmpasu ei gweithgaredd ymchwil. Penodwyd uwch academydd i arwain y themâu amrywiol a chawsant eu cynllunio i feithrin gweithgarwch ymchwil integredig gan ddatblygu doniau ifanc ar yr un pryd. Anogir ymgeiswyr sydd am wneud cais i astudio ar gyfer gradd ymchwil gysylltu eu cais ag un o'r pedair thema ymchwil hwn.
Fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig, bydd rhaglen amrywiol o seminarau a gweithdai a rhaglen datblygu sgiliau gynhwysfawr ar gael i chi; sy'n cyflwyno myfyrwyr i arloesedd, bioentrepreneuriaeth a thechnolegau digidol, yn ogystal â sgiliau craidd traddodiadol.
Mae Dr James Cronin, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn yr Ysgol Feddygaeth, yn rhannu ei gyngor ar sut i ddod o hyd i oruchwyliwr a mynd ato.
Bydd y PhD hwn mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd yn Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol dan arweiniad eich diddordebau eich hun. Mae cael PhD yn dangos y gall graddedigion weithio'n effeithiol mewn tîm, llunio, archwilio a chyfleu syniadau cymhleth a rheoli tasgau uwch. Mae swyddi yn y byd academaidd (ee ymchwil ôl-ddoethurol, darlithio), addysg, y llywodraeth, rheolaeth, y sector cyhoeddus neu breifat yn bosibl.
Bydd yr MPhil mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol dan arweiniad eich diddordebau eich hun. Mae cael gradd Meistr mewn Athroniaeth yn dangos y gallwch gyfleu'ch syniadau a rheoli tasgau. Mae swyddi yn y byd academaidd, addysg, llywodraeth, rheolaeth, y sector cyhoeddus neu breifat yn bosibl.
Bydd yr MSc gan Ymchwil mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil dan arweiniad eich diddordebau eich hun. Mae cael gradd Meistr trwy ymchwil yn dangos y gallwch gyfleu'ch syniadau a rheoli tasgau. Mae swyddi yn y byd academaidd, addysg, llywodraeth, rheolaeth, y sector cyhoeddus neu breifat yn bosibl.
Mae'r cwrs MD mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd yn addas i ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'r pynciau hyn ac sydd am weithio ar broblemau meddygol cymhleth sydd ag effeithiau biolegol a chymdeithasol. Bydd y rhaglen yn cynnwys dysgu seiliedig ar ymarfer, seminarau a gweithdai'r rhaglen, mynediad i'r prif gyfleuster ymchwil feddygol bwrpasol yng Nghymru a chydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes yn ogystal â chydweithwyr o bob rhan o'r GIG.
Mae'r cyrsiau DProf ac MRes mewn Ymchwil ym maes Addysg Proffesiynau Iechyd yn rhoi hyfforddiant arbenigol i chi ar ddulliau ymchwil addysg. Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer unrhyw un sydd am wneud ymchwil drylwyr sy'n canolbwyntio ar ymarfer, gan gynnwys meddygon, nyrsys, addysgwyr academaidd, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol neu seicolegwyr. Bydd eich rhaglen yn cynnwys hyfforddiant a chymorth llawn mewn perthynas ag amrywiaeth eang o ddulliau ymchwil a rhoddir pwyslais ar ymchwil i ymarfer, sy'n golygu y gellir gwneud ymchwil yn eich gweithlu i bynciau sy'n uniongyrchol berthnasol i'ch rôl. Byddwch wedyn yn cwblhau naill ai prosiect ymchwil byr (MRes) neu'n cynnal ymchwil manwl ar lefel doethuriaeth (DProf).
Mae'r cwrs MRes mewn Gwyddorau Dadansoddol Cymhwysol (LCMS) yn gyfuniad unigryw o gyfranogiad yn y diwydiant a chynnwys cwrs a fydd yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol-berthnasol ac yn helpu i'ch gwneud yn gyflogadwy iawn yn y DU a thramor. Mae cwrs wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion diwydiant a bydd yn trafod pynciau fel hanfodion sbectrometreg màs a gwyddor gwahanu, mesuriadau dadansoddol dilys, ystadegau, dadansoddi data a datblygu dull.
Cynlluniwyd y cwrs MRes mewn Gwybodeg Iechyd ar gyfer pobl sydd â phrofiad o wybodeg iechyd ac sydd am gyfrannu at y maes drwy helpu i ddatblygu'r sail wybodaeth. Mae'r ddisgyblaeth hon, sy'n datblygu, yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o ddarpariaeth iechyd yn yr 21ain ganrif. Bydd y rhaglen dwy flynedd rhan amser yn cynnwys ffocws ar ymchwil sylfaenol, meithrin sgiliau ymchwil drwy dri modiwl byr wrth i chi ddatblygu eich prosiect ymchwil gwybodeg iechyd ei hun yn ystod naw mis cyntaf y cwrs cyn cwblhau traethawd ymchwil estynedig dan oruchwyliaeth yn ystod yr ail flwyddyn.
Edrychwch ar daith o 360o o'n campws a llety...