Awdur: Alex Ruddy
Shwmae, Alex ydw i, ac rwyf newydd orffen fy ngradd mewn meddygaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Rwy’n gallu cofio’n glir mynd trwy Glirio pan gollais fy lle mewn meddygaeth ac nid oedd gennyf syniad beth i’w wneud nesaf. Byddai wedi bod yn braf petai cyngor ar gael pan roeddwn i yn y sefyllfa honno.
Yn gyntaf oll … Peidiwch â Phanicio
Os oes gennych freuddwyd i astudio meddygaeth, ond ni chawsoch le eleni - Peidiwch â Phanicio
Alex Ruddy
Efallai nad yw’n amlwg ar hyn o bryd, ond nid yw colli lle israddedig mewn meddygaeth yn ddiwedd y byd. Mae digon o opsiynau ar gael ichi.
Astudiais Fiocemeg Feddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe – dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd bod ganddi gwrs Meddygaeth i Raddedigion sydd â hanes da o fyfyrwyr gwyddoniaeth israddedig yn cael eu derbyn. Ar ôl ymuno trwy Glirio, astudiais yn galed ar gyfer fy ngradd BSc a chael fy nerbyn i’r cwrs Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe fel roeddwn yn ei obeithio.
Felly, serch methu cael lle mewn meddygaeth israddedig, llwyddais i gael fy nerbyn ar gwrs meddygaeth yn y pen draw. Rwyf wedi llwyddo gyda’m nod o astudio Meddygaeth, a chredwch chi fi, mae hi wedi bod yn werth yr holl waith a’r aros.
Nesaf … beth sydd arnoch ei angen ar gyfer Clirio?
Mae Clirio yn adeg sy’n llawn straen, gydag ymgeiswyr o bob math o gyrsiau yn chwilio am le newydd ar gwrs a fydd yn eu helpu i wireddu eu nodau. Nid ydych ar eich pen eich hun! Hefyd mae Clirio yn adeg brysur dros ben, felly pan ddaw diwrnod y canlyniadau bydd ychydig o bethau allweddol i’w cofio os ydych chi’n dymuno astudio Meddygaeth:
1. Ydy Meddygaeth yn defnyddio Clirio?
Gan fod y gystadleuaeth am leoedd mewn ysgolion meddygaeth mor frwd yn y lle cyntaf, prin fydd y lleoedd sydd ar gael trwy Glirio, felly dechreuwch feddwl am bynciau eraill efallai yr hoffech eu hastudio.
Edrychwch ar eich pynciau Gwyddoniaeth Safon Uwch a dewiswch bwnc sydd o ddiddordeb ichi y bydd yn eich symud tuag at eich nod o astudio Meddygaeth. Yn Abertawe mae nifer o gyrsiau gradd a fydd yn bodloni’ch cariad at wyddoniaeth, pe bai gennych gryfder mewn Bioleg neu Gemeg neu’r ddwy.
2. Dewch o hyd i le sydd â llwybr i Feddygaeth, a’i sicrhau.
Er mwyn cael lle ar gwrs Meddygaeth i Raddedigion, bydd arnoch angen radd israddedig dda. Mae gan Brifysgol Abertawe Lwybrau penodol i raddau Meddygaeth, a bydd myfyrwyr ar y Llwybrau hyn yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer cwrs Meddygaeth i Raddedigion os byddant yn bodloni’r isafswm gofynion mynediad.
Trwy astudio cwrs Llwybrau i Feddygaeth yn Abertawe, byddwch yn ennill gradd wyddoniaeth gadarn gan brif Ysgol Feddygaeth y DU a chyfweliad gwarantedig ar gyfer meddygaeth erbyn ichi raddio, felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.
3. Unwaith eich bod wedi gwneud eich dewis, cofrestrwch eich diddordeb.
Os ydych chi’n mynd i dreulio’r 3 blynedd nesaf yn rhywle, mae’n rhaid i chi fod yn siŵr eich bod chi’n ei hoffi ac y gallwch ddychmygu eich hunan yn byw yno!
Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnig diwrnodau agored rhithwir er mwyn i chi gael blas ar Abertawe heb golli’r cyfle i ymweld â’r ddinas yn bersonol (mae teithiau tywys gwych, a gallwch siarad â myfyrwyr presennol am eu profiadau nhw).
Yn ystod Clirio, bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig sawl ymweliad personol y gallwch gadw lle arnynt o flaen llaw. Dyma gyfle gwych i chi weld y campws yn bersonol mewn ffordd ddiogel â phellter cymdeithasol
Rwy’n sicr y byddwch yn cwympo mewn cariad â’r lle hefyd, felly cymerwch eiliad nawr i gofrestru’ch diddordeb ar gyfer Clirio er mwyn inni allu rhoi gwybodaeth ichi am y cyfle nesaf i ddod i adnabod Abertawe, ein cyrsiau a’r Llwybrau i Feddygaeth.
3. Unwaith y byddwch wedi gwneud eich dewis - Ffoniwch ni am help a Chymorth Clirio: 0808 175 3071
Os ydych chi'n mynd i dreulio'r 3 blynedd nesaf yn rhywle, mae angen i chi fod yn siŵr eich bod chi'n ei hoffi ac yn gallu gweld eich hun yn byw yno! Felly cysylltwch ag Abertawe a siaradwch â nhw am eich opsiynau cwrs. Unwaith y bydd gennych gynnig, beth am gofrestru ar gyfer Diwrnod Agored Deiliaid Cynnig Clirio, a chrwydro’r ddinas eich hun.
Rydw i wedi bod wrth fy modd yn astudio yma ac wedi mwynhau byw yma gymaint i mi wneud cais i barhau â’m Hyfforddiant Sylfaen ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cwmpo mewn cariad â’r lle hefyd, felly cymerwch funud i gofrestru eich diddordeb mewn clirio fel y gallwn ddweud wrthych am y cyfle nesaf i ddod i adnabod Abertawe, ein cyrsiau a Llwybrau at Feddygaeth.
Os ydych yn gwybod beth rydych am ei astudio – gallwch wneud cais nawr:
Gwneud Cais trwy ClirioYn olaf – peidiwch ag anghofio y bydd angen penderfyniad a chariad ar gyfer Meddygaeth.
Cofiwch – ar ôl ymgeisio i astudio Meddygaeth eisoes a chael eich gwrthod, byddwch yn deall yn well na’r rhan fwyaf o bobl sut mae’r daith i fod yn Feddyg yn gallu bod yn llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Cofiwch hyn pan fyddwch yn ymgeisio am eich lle ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion…ni fydd eich gwydnwch a’ch angerdd yn mynd heb sylw!
Nid oes gennyf amheuaeth y byddwch yn ddigalon ar hyn o bryd, fel roeddwn innau, ond peidiwch â gadael iddi’ch stopio. Gan edrych yn ôl, rwy’n meddwl bod astudio Meddygaeth i Raddedigion wedi fy ngwneud yn feddyg mwy cyflawn a phrofiadol. Mae hi wedi cymryd llawer o egni a phenderfyniad er mwyn llwyddo, ond yn y tymor hir mae hi wedi bod yn brofiad mwy melys!