Awdur: Gloria Prince
Helô Gloria ydw i, ac rwy'n astudio Meddygaeth yn Abertawe, ond nid oedd fy llwybr i Feddygaeth yn un syml. Ni ches i astudio Meddygaeth i israddedigion ac roeddwn am roi fy nghyngor i chi wrth wneud eich cais am Feddygaeth, cyngor y byddwn ni wedi hoffi ei gael.
Mae gwneud cais am Feddygaeth yn llawn straen, mae cynifer o ddewisiadau a byddwch chi'n teimlo bod eich dyfodol yn dibynnu ar hyn. Yna, rydych yn darganfod bod yn rhaid i chi gael pumed dewis ar eich cais Meddygaeth. Os ydych chi fel fi, byddwch chi'n meddwl; "Beth dylwn ei wneud am fy mhumed dewis?" - a dyma fy nghyngor.
Sawl cais ucas y gallaf ei wneud ar gyfer meddygaeth?
Felly, gadewch i ni gael yr hanfodion yn gywir i ddechrau. Pan fyddwch chi'n cyflwyno cais i Brifysgol drwy UCAS, gallwch gynnwys 5 Prifysgol yn unig. O ran Meddygaeth, mae gennych 5 dewis o hyd ond dim ond 4 o'r rhain sy'n gallu bod yn rhai Meddygaeth. Felly dyma'r cwestiwn...
Ar gyfer beth mae'r 5ed Dewis ar UCAS?
Mae'r 5ed Dewis yn bodoli mewn nifer o feysydd cystadleuol megis cyflwyno cais am Feddygaeth neu Ddeintyddiaeth. Mae'r 5ed Dewis yn bodoli oherwydd bod Meddygaeth mor gystadleuol (am bob lle mae tua 100 o ymgeiswyr). Golyga hyn na fydd pob ymgeisydd yn cael lle mewn Ysgol Feddygaeth ar yr ymgais gyntaf. Unwaith bydd y broses gyfweld wedi'i threfnu, bydd y rhai ffodus yn cael cynnig amodol, caiff y gweddill eu gwrthod (tuag adeg y gwanwyn). Mae'r bobl yn y garfan hon fel arfer yn benderfynol o fynd i’r Brifysgol, felly mae'r 5ed dewis yn cadw opsiynau ar agor i ymgeiswyr meddygaeth i ganfod llwybr i Addysg Uwch ac fel yn fy achos i, fy llwybr wrth gefn i Feddygaeth.
Rwy'n gwybod bod hyn yn codi rhagor o gwestiynau nag atebion. Felly y cwestiwn mawr.
Beth gallaf ei astudio yn lle Meddygaeth?
Dyma'r cwestiwn mawr, a'r cwestiwn cywir hefyd. Gallai'r 5ed dewis, hyd yn oed os nad ydych am feddwl amdano ar hyn o bryd, yr hyn y gallwch fod yn ei wneud am 3 blynedd o'ch bywyd, felly mae'n rhaid i chi ddewis rhywbeth y byddwch yn ei fwynhau. Y gyfrinach yw dewis rhywbeth y byddwch yn ei fwynhau a chadw'r drws ar agor i Feddygaeth. Ac os ydych chi eisoes wedi cyflwyno eich ffurflen UCAS, peidiwch â becso - cewch ychwanegu 5ed Dewis at eich cais hyd at fis Ionawr.
Nid oeddwn yn gwybod hyn ar y pryd, ond nawr rwyf yn gwybod! Felly dyma fantais fy mhrofiad - ystyriwch Lwybr i Feddygaeth.
Beth yw llwybr i feddygaeth?
Mae Llwybr i Feddygaeth yn ffordd drwy rai o'n Graddau BSc israddedig sy'n sicrhau cyfweliad i ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer ein Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion a phrofiadau i ddeall yn well beth yw bywyd fel Meddyg a beth yw hanfod y gwaith, wrth ennill profiad ymchwil a bywyd amhrisiadwy er mwyn cyflwyno cais i Feddygaeth i Raddedigion.
Nid y dysgu a'r profiadau ffurfiol a geir wrth astudio gradd yw’r hyn sy'n gwneud y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion mor arbennig , ond bydd y paratoad ar gyfer y Modiwl Llwybrau i Feddygaeth (Meddygon, Cleifion a Nodau Meddygaeth) yn rhoi ichi, wrth gysgodi Meddygon i ysgrifennu cais da a pharatoi am gyfweliad i Llwybrau i Feddygaeth, y fantais wrth gyflwyno cais am y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion.
Rhagor O Wybodaeth Am Lwybrau I Feddygaeth
Y cyngor olaf sydd gen i ar eich cyfer yw: dewch i ddiwrnod agored. Mae Prifysgol Abertawe yn trefnu Diwrnodau Agored yn rheolaidd, a chynhelir sgyrsiau Llwybrau i Feddygaeth fel rhan o holl sesiynau Diwrnodau Agored israddedig yr Ysgol Feddygaeth.
Y peth olaf sydd gen i i’w ddweud yw pob lwc gyda chyflwyno cais i'r Ysgol Feddygaeth, a chofiwch nid yw'n ddiwedd y byd os na fyddwch yn cael lle ar y cwrs Meddygaeth i israddedigion, ni chefais i le ac rwy ar fy ffordd i fod yn Feddyg!
Diwrnodau Agored Israddedig