Y Cynllun Tenantiaid yw'r Rhaglen Deor Busnesau ar gyfer busnesau Iechyd a Gwyddor Bywyd cyfnod cynnar y mae ganddynt ddyheadau i dyfu trwy ddatblygu eu harloesed wrth ochr ein hymchwilwyr blaengar a mynediad at ein cyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae'r Cynllun Tenantiaid yn rhoi mynediad i gymorth, cefnogaeth a swyddfa mewn un o'n hadeiladau i fusnesau cyfnod cynnar.
Mae ein hadeiladau ILS1 ac ILS2 wedi'u hadeiladau'n arbennig i ddarparu amgylchedd i ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau er lles iechyd dynol. Bwriad amgylchedd yr ILS yw cynorthwyo sefydliadau arloesol i dyfu'n gyflym. Disgwylir y bydd sefydliadau'n aros yn ILS am 2 i 5 mlynedd, yn ystod y cyfnod hwnnw byddant wedi ehangu ac yn barod i symud i swyddfeydd mwy neu i ddatblygu eu swyddfeydd eu hunain.
Mae Aelodaeth Tenantiaid yn rhoi’r pethau canlynol i’r aelodau:
- Swyddfa yn yr ILS gyda mynediad at gyfleusterau i ddatblygu eich syniad busnes
- Mynediad i labordai
- Ystafelloedd cyfarfod a chynadledda, gan gynnwys cyfleusterau a chyfarpar arbenigol, a rhywfaint o ddefnydd cyfyngedig am ddim
- Seminarau a gweithdai a drefnir gan yr Ysgol Feddygaeth
- Digwyddiadau rhwydweithio, gan roi'r cyfle i gydweithio â Chysylltiadau a Sefydliadau Cleient eraill
- Mynediad at staff Cymorth Busnes
Mae Aelodaeth Tenantiaid ar gyfer:
- Busnesau newydd ac unigolion ar gyfnod cynnar iawn y gwaith o ddatblygu eu busnesau.
- Sefydliadau mawr sy'n dymuno datblygu safle mewn amgylchedd arloesol i archwilio cyfleoedd busnes
- Staff neu fyfyrwyr y Brifysgol sy'n dymuno dechrau syniad busnes o'r ymchwil a gynhaliwyd ganddynt
- Buddsoddwyr mewnol (byd-eang, BBaCh, micro-gwmnïau)
- Sefydliadau ymchwil y Llywodraeth