Mae gan yr Ysgol Feddygaeth gymuned ymchwil gyffrous, sy'n denu arian ymchwil mawr ei fri a myfyrwyr PhD ysbrydoledig. Ymysg yr arian ymchwil a ddyfarnwyd i'r Ysgol Feddygaeth yn ddiweddar mae cyllid gan Sefydliad Prydeinig y Galon, UKRI, HDRUK, ADRN, y Cyngor Ymchwil Feddygol a SMART Expertise drwy Lywodraeth Cymru.
Rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â heriau byd-eang a gwella iechyd, cyfoeth a llesiant cymdeithas. Cryfder cymuned ymchwil yr Ysgol yw'r bobl sy'n rhan ohoni, a'i huchelgais i gyflawni rhagoriaeth. Drwy gydweithio ar draws pob un o bedair thema ymchwil yr Ysgol Feddygaeth, mae ein hymchwilwyr dawnus yn gallu gwthio'r ffiniau yn eu meysydd ac arloesi y tu fewn i'r gymuned ymchwil, a thu hwnt iddi.
Gan weithio o'r Athrofa Gwyddor Bywyd, Gwyddor Data a'r Ganolfan NanoIechyd yng Nghampws Singleton, ac yn agos i gyfleusterau a staff GIG Cymru, gall ein hymchwilwyr fanteisio i'r eithaf ar arbenigedd rhyngddisgyblaethol a chyfleusterau o'r radd flaenaf.
Uchafbwyntiau Gwaith Ymchwil
Mae sicrhau bod modd troi ein hymchwil yn fuddiannau go iawn, gan drosglwyddo syniadau a dealltwriaeth o'r fainc ymchwil i erchwyn gwely cleifion ac yn ôl eto, wrth wraidd popeth a wnawn. Yn gyson yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, mae ein hansawdd ymchwil cyffredinol yn parhau i gael ei ystyried yn un sy'n arwain y byd (REF2021).
Bydd ein Huchafbwyntiau Gwaith Ymchwil yn rhoi trosolwg manwl i chi o'r effaith a gawn ar lefel fyd-eang, gan ddangos ehangder yr ymchwil ddiweddaraf a gynhelir gan yr Ysgol Feddygaeth, a sut mae ein hymchwil yn wynebu heriau byd-eang ac yn helpu i fynd i'r afael â nhw.
Niwed Dna A Diogelwch Deunyddiaunano
Sut rydym yn asesu diogelwch nanoddeunyddiau? Mae niwed i DNA yn benodol yn peri pryder gan y gall arwain at ddatblygu canser, ac felly mae'n hanfodol asesu gallu unrhyw sylwedd y byddwn yn dod i gysylltiad ag ef i niweidio DNA. Mae'r Athro Shareen Doak a'i thîm wedi bod yn datblygu dulliau wedi'u teilwra o brofi diogelwch nanoddeunyddiau yn ogystal â modelau meinweoedd datblygedig newydd nad ydynt yn dod o anifeiliaid. Mae nifer o ddogfennau polisi asesu risgiau rheoleiddiol rhyngwladol ledled y byd wedi defnyddio ein hymchwil i addasu methodoleg profi am niwed i DNA er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer gwerthuso nanoddeunyddiau.
Rheoli Heintiau Ffwngaidd
Mae heintiau ffwngaidd yn costio miliynau i'r diwydiant amaethyddol bob blwyddyn, o ganlyniad i gnydau wedi'u difrodi ac wedi'u dinistrio. Daw ffwngleiddiaid yn llai effeithiol wrth i ffyngau targed ddatblygu ymwrthedd iddynt. Ond mae'r angen i ddefnyddio mwy o ffwngleiddiaid o hyd yn arwain at niwed ecolegol hefyd.
Roedd yn bwysig datblygu ffwngleiddiad a fyddai'n llwyddo i ddinistrio'r ffwng targed heb amharu ar brosesau y tu mewn i'r lletywr, boed hynny'n blanhigyn neu'n anifail. Drwy gymryd y cam hwn, byddai ffwngleiddiaid yn fwy effeithiol, a byddai llai o niwed ecolegol
Iechyd Meddwl Plant A Phobl Ifanc
Mae hanner problemau iechyd meddwl wedi'u sefydlu erbyn 14 oed, ac mae tri chwarter ohonynt wedi'u sefydlu erbyn 24 oed. O ystyried y cynnydd mewn gorbryder, iselder, hunan-niweidio a hunanladdiad a welwyd dros y degawd diwethaf, nod ein rhaglen ymchwil amlddisgyblaethol yw trawsnewid dealltwriaeth o bobl ifanc ag iechyd meddwl gwael, yn ogystal â thrawsnewid y gofal a gânt a'u canlyniadau. Gyda chyllid o fwy na £3m a gafwyd dros y pum mlynedd diwethaf, rydym yn arwain Llwyfan Data Iechyd Meddwl y Glasoed a thema Gwyddor Data yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Rydym yn datblygu ein gwaith mewn partneriaeth â phobl ifanc, ac yn troi ein hymchwil yn bolisïau ac ymarfer yn gyflym, gan gynnwys llunio adnoddau ar gyfer ysgolion a gweithwyr ieuenctid a chanllawiau ymarfer.
Osgoi Ymyriadau Meddygol Diangen
Mae nifer o feddygfeydd ledled y DU wedi dechrau defnyddio meddalwedd sy'n nodi cleifion sy'n wynebu risg uchel o gael eu derbyn i'r ysbyty ar frys drwy gyfrifo "sgôr risg" ar gyfer pob claf unigol ar sail achosion blaenorol o gael eu derbyn i'r ysbyty, cyflyrau sylfaenol a meddyginiaeth. O ganlyniad i'r ymyriad hwn – a elwir yn bennu lefel risg ragfynegol – gall meddygon teulu nodi pobl a allai gael budd o ymyriad cynnar er mwyn atal derbyniadau i'r ysbyty nas cynlluniwyd ( ar frys)
Colesterol Mewn Iechyd A Chlefydau Dynol
Sylwedd brasterog yw colesterol, a wneir gan bob cell ac a geir mewn rhai bwydydd. Fel un o'r moleciwlau mwyaf cyffredin yn y corff dynol, mae'n chwarae rôl hanfodol yng ngweithrediad y corff, ac yng ngweithrediad yr ymennydd, y nerfau a'r afu/iau yn benodol. Mae gormod o golesterol yn gysylltiedig â chlefydau sy'n nodweddiadol o'r 21ain ganrif gan gynnwys clefyd Alzheimer, clefyd yr afu/iau a diabetes. Bydd dealltwriaeth well o'r ffordd y mae celloedd yn rheoli eu colesterol yn arwain at brosesau gwell o ran gwneud diagnosis a thriniaethau posibl ar gyfer y clefydau hyn, a chlefydau eraill sy'n gysylltiedig â nhw.
Ymunwch Â'n Cymuned Ymchwil
Yn dilyn llwyddiant REF2014, rydym wedi cynnal ein safle ymysg y 5 uchaf yn y DU (REF2021). Rydym yn ymchwilio i imiwnedd mewn menywod beichiog; yn ceisio deall nanoddeunyddiau a'u gwenwyndra; yn addasu genynnau bacteria i wella canser o bosibl a threchu malaria; ac yn ymchwilio'n drwyadl i ddata mawr i wella canlyniadau iechyd.
Mae ein dull o droi ymchwil Feddygol yn fuddiannau go iawn wrth wraidd popeth a wnawn, gan gyd-letya ymchwil a menter er mwyn gwella iechyd, cyfoeth a llesiant. Mae ein hymchwil yn dechrau yn Abertawe, ond mae'n cyrraedd y byd. Drwy astudio gradd Ymchwil gyda ni, byddwch yn ymuno â chymuned sy'n annog pobl i fod yn arloesol, yn croesawu pobl â syniadau gwreiddiol ac yn cynnig y cyfle iddynt greu argraff fawr ar y byd.
Archwilio Problemau Byd-Eang
Rydym yn darlledu cyfres o bodlediadau a elwir yn Archwilio Problemau Byd-eang, lle mae academyddion o bob rhan o'r Brifysgol yn trafod sut bydd eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau byd-eang.
Ymysg y pynciau cyntaf mae Arloesedd ym maes Iechyd, y Newid yn yr Hinsawdd, Ynni Gwyrdd a Thechnolegau digidol sy'n canolbwyntio ar bobl. Daeth ein cyfraniad i hyn oddi wrth Dr Amira Guirguis, sydd wedi ymchwilio i'r heriau sy'n deillio o Sylweddau Seicoweithredol Newydd a sut y gallwn eu canfod. Mae'r ail bennod yn edrych ar waith yr Athro Paul Dyson, a fu'n siarad am ei waith yn addasu genynnau bacteria er mwyn gwella canser o bosibl.
Ewch i dudalen ein podlediad a thanysgrifiwch i'r gyfres. Gobeithio y byddwch yn ei fwynhau!
Newyddion yr Ysgol Feddygaeth