Microbau Ac Imiwnedd - O'r Fainc I Erchwyn Y Gwely
Mae'r thema ymchwil hon yn helpu yn y frwydr yn erbyn clefydau heintus drwy ddod ag ymchwil o'r fainc i erchwyn y gwely.
Mae'r thema ymchwil hon yn helpu yn y frwydr yn erbyn clefydau heintus drwy ddod ag ymchwil o'r fainc i erchwyn y gwely.
Mae ymchwilwyr sy'n rhyngweithio'n helaeth wedi rhoi dulliau ymchwil rhyngddisgyblaethol ar waith er mwyn mynd i’r afael â heriau byd-eang COVID-19.
O ganlyniad i'r wybodaeth sydd gennym ym meysydd microbioleg, imiwnobioleg ac imiwnopatholeg, o wyddoniaeth sylfaenol i gymwysiadau ar gyfer mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd yn ogystal ag atal neu drin clefydau, cafwyd arian gan brosiect cydweithredol ar draws y Brifysgol, sef Beacon, a chan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) ym maes lipidomeg.
Mae'r ymchwilwyr yn ymrwymedig i greu amgylchedd ymchwil sy'n fywiog, yn amrywiol ac yn gydweithredol, sydd hefyd yn meithrin myfyrwyr.
Mae ein hymchwil ar flaen y gad o ran defnyddio gwybodaeth ddatblygedig am facteria, ffyngau ac imiwnedd. Rydym yn manteisio ar wybodaeth ddatblygedig am y systemau hyn sy'n ein galluogi i wella'r ddealltwriaeth wyddonol bresennol drwy ddefnyddio dulliau cymhwyso a rhai rhyngbroffesiynol er budd clinigol.
Rydym yn ymchwilio i fathau o ffwngleiddiaid sy'n fwy cywir a mwy cost-effeithiol er budd byd amaeth, gan ddefnyddio'r ddealltwriaeth hon i wella canlyniadau iechyd dynol. Gan fanteisio ar facteria a'r system imiwnedd, rydym yn ceisio defnyddio ein dealltwriaeth i wella diagnosteg a therapiwteg.
Mae heintiau ffwngaidd yn costio miliynau i'r diwydiant amaethyddol bob blwyddyn, o ganlyniad i gnydau wedi'u difrodi ac wedi'u dinistrio. Daw ffwngleiddiaid yn llai effeithiol wrth i ffyngau targed ddatblygu ymwrthedd iddynt. Ond mae'r angen i ddefnyddio mwy o ffwngleiddiaid o hyd yn arwain at niwed ecolegol hefyd.
Roedd yn bwysig datblygu ffwngleiddiad a fyddai'n llwyddo i ddinistrio'r ffwng targed heb amharu ar brosesau y tu mewn i'r lletywr, boed hynny'n blanhigyn neu'n anifail. Drwy gymryd y cam hwn, byddai ffwngleiddiaid yn fwy effeithiol, a byddai llai o niwed ecolegol
Mae ymchwil ym maes Microbau ac Imiwnedd yn canolbwyntio ar ddwy is-thema benodol. Gan gyfrannu at y dull cydweithredol a rhyngbroffesiynol sy'n nodweddiadol o gymuned ymchwil yr Ysgol Feddygaeth, mae'r is-themâu hyn yn denu cryn dipyn o arian ymchwil, sy'n golygu bod modd i'r ysgol gefnogi amrywiaeth eang o fyfyrwyr PhD a myfyrwyr ymchwil.