Darganfyddwch i ble y bydd eich gradd yn mynd â chi ...
Mae pob Cyfadran ym Mhrifysgol Abertawe'n gallu cynnig profiad unigryw i chi astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor, gan ddibynnu ar gynllun eich gradd. Dewiswch eich maes pwnc i gael gwybodaeth ac arweiniad penodol. Sylwer, efallai bydd yr opsiynau sydd ar gael i chi'n gyfyngedig gan ffactorau allanol, megis cyfyngiadau teithio a chapasiti mewn prifysgolion partner.
Nid yw cofrestru am raglen â semester/blwyddyn dramor yn gwarantu eich lleoliad dramor am semester/blwyddyn.Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ac fe'u trefnir yn unol â phroses ddethol gystadleuol.Os nad ydych yn sicrhau lleoliad am semester/blwyddyn dramor, cewch eich trosglwyddo i fersiwn gyffredin eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. Bydd angen i chi fodloni isafswm trothwy academaidd er mwyn cymryd rhan mewn semester neu raglen blwyddyn dramor.Efallai bydd y cyrchfannau sydd ar gael yn gyfyngedig oherwydd ffactorau allanol, megis cyfyngiadau teithio a chapasiti mewn prifysgolion partner. Bydd costau cysylltiol y semester/blwyddyn dramor (megis teithio, fisâu, costau'r brifysgol letyol a chostau byw dramor yn y wlad letyol) yn amrywio. Efallai bydd cyllid ar gael.