Gan eich bod wedi dewis astudio gradd Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ym Mhrifysgol Abertawe, bydd blwyddyn dramor eisoes wedi’i hintegreiddio yn eich cwrs ac mae’n debygol y byddwch wedi meddwl yn ofalus am ba leoedd yr hoffech fynd iddynt a’r hyn yr hoffech ei wneud yn ystod trydedd flwyddyn eich cwrs. Ceir nifer o ddewisiadau i chi eu hystyried:
- Astudio mewn prifysgol bartner
- Cwblhau Swydd Cynorthwy-ydd Iaith y Cyngor Prydeinig
- Cwblhau lleoliad gwaith dramor
Ceir isod restr o’r prifysgolion partner ar gyfer pob adran iaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn Swydd Cynorthwy-ydd Iaith neu Leoliad Gwaith gyda'r British Council, bydd angen i chi roi gwybod i'ch Tiwtor Astudio Dramor yn y lle cyntaf. Efallai bydd ffactorau allanol, megis cyfyngiadau teithio a nifer y lleoedd sydd ar gael yn y prifysgolion partner, yn cyfyngu ar yr opsiynau a fydd ar gael i chi.