Mae nifer o fwrsariaethau a grantiau gwahanol ar gael i'ch helpu gyda chostau eich cyfnod dramor, i gynorthwyo gyda chostau teithio, ffioedd llety a threuliau beunyddiol cyffredinol. Bydd y cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar ble rydych chi'n mynd a pha mor hir y byddwch yn aros yno. Ceir manylion llawn am bob bwrsariaeth isod. Sylwer y gall symiau'r bwrsariaethau amrywio bob blwyddyn.
Ffioedd Dysgu A Benthyciadau i Fyfyrwyr
Ffioedd Dysgu
Os byddwch yn treulio blwyddyn dramor fel rhan o'ch gradd, yna byddwch yn talu cyfradd is o'ch ffïoedd dysgu arferol i Brifysgol Abertawe ar gyfer y flwyddyn honno (15% yn 2019/20).
Os byddwch yn treulio semester dramor, byddwch yn talu'ch ffioedd dysgu arferol i Brifysgol Abertawe.
Benthyciadau Myfyrwyr
Os ydych yn astudio neu'n gweithio dramor, gallwch wneud cais am eich benthyciad myfyriwr fel arfer o hyd drwy'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr perthnasol. Mae'n bwysig eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cynllun gradd cywir sy'n adlewyrchu'ch blwyddyn neu'ch semester dramor a'ch bod yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Benthyciadau Myfyrwyr eich bod yn mynd dramor. Mae'n bosib y gofynnir i chi gyflwyno ffurflen cwrs dramor y bydd y Tîm Ewch yn Fyd-eang yn falch o'i llofnodi a'i stampio. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud cais am fenthyciadau a grantiau.
Grantiau Teithio
Os ydych yn derbyn arian drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon ar hyn o bryd, ac os ydych yn bwriadu parhau yn ystod eich blwyddyn/semester dramor, mae'n bosib y gallwch wneud cais am ad-dalu eich treuliau teithio am eich cyfnod o astudio dramor. Dilynwch y dolenni perthnasol isod am ragor o wybodaeth a manylion gwneud cais. Os ydych yn gymwys, cofiwch nad Prifysgol Abertawe sy'n talu am yr ad-daliad hwn; mae'r Tîm Ewch yn Fyd-eang yn eich cyfeirio at yr wybodaeth hon yn unig. Os oes gennych gwestiynau pellach, cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol.
Cyllid Myfyrwyr Cymru
Student Finance England
Student Awards Agency Scotland
Student Finance Northern Ireland
Bwrsariarthau ar gyfer Blwyddyn neu Semester Dramor
Bwrsariaeth Cyfleoedd Byd-eang - £1000 i fyfyrwyr sydd dramor yn 2019/20
Mae'r Fwrsariaeth Cyfleoedd Byd-eang ar gael i fyfyrwyr sy'n treulio semester neu flwyddyn yn astudio neu'n gweithio dramor y tu allan i Ewrop fel rhan o'u gradd (ac eithrio Tecsas). Rhaid i chi gwblhau'r gwaith papur angenrheidiol er mwyn i chi dderbyn y fwrsariaeth hon.
Partneriaeth Strategol Tecsas - £1200 i fyfyrwyr sydd dramor yn 2019/20
Mae bwrsariaeth Partneriaeth Strategol Tecsas ar gael i fyfyrwyr sy'n treulio semester neu flwyddyn yn astudio dramor yn un o'n prifysgolion partner yn Nhecsas fel rhan o'u gradd. Rhaid i chi gwblhau'r gwaith papur angenrheidiol er mwyn i chi dderbyn y fwrsariaeth hon.
Bwrsariaethau Erasmus+
Gall cyllid Erasmus+ amrywio ac mae'n ddibynnol ar fanylion y setliad Brexit a negodir gan lywodraeth y DU.
Mae'r fwrsariaeth Erasmus+ yn amrywio gan ddibynnu ar ba wlad rydych am ymweld â hi ac a fyddwch yn astudio neu'n gweithio. Yn 2018/19 roedd hi ar gael i fyfyrwyr wnaeth penderfynu treulio hyd at flwyddyn o'u cwrs yn Ewrop drwy raglen Erasmus+. Rhaid i chi gwblhau'r gwaith papur angenrheidiol er mwyn i chi dderbyn cyllid Erasmus ac mae'n rhaid i chi gwblhau nifer penodol o ddiwrnodau er mwyn i chi fod yn gymwys i dderbyn cyllid (90 o ddiwrnodau ar gyfer lleoliadau astudio a 60 o ddiwrnodau ar gyfer swyddi dan hyfforddiant). Os byddwch yn dychwelyd yn gynnar a heb gwblhau’r isafswm diwrnodau dramor, bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw gyllid Erasmus+ rydych wedi'i dderbyn.
Bwrsariaeth Ehangu Cyfranogiad
Os ydych yn fyfyriwr israddedig sy'n ymgymryd â rhaglen flwyddyn neu semester dramor, byddwn yn gwirio a ydych yn gymwys i dderbyn cyllid Ehangu Cyfranogiad ychwanegol. Rydych yn gymwys am y fwrsariaeth hon os ydych wedi datgan bod incwm blynyddol eich aelwyd yn llai na £30,000 wrth gyflwyno cais am gyllid myfyriwr (ac os ydych chi a'ch rhieni wedi cytuno i rannu'r wybodaeth hon).
Sylwer nad yw hyn yn seiliedig ar incwm y myfyriwr, ond ar incwm eich rhieni/gwarcheidwaid. Byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn fyfyriwr sy'n gadael gofal, yn fyfyriwr sy'n rhoi gofal neu'n fyfyriwr sydd wedi'i ddieithrio neu'r cyntaf o'ch teulu i fynychu Prifysgol. Byddwn yn gwirio hyn gyda'r adran cofnodion myfyrwyr a/neu Arian@BywydCampws.
Rhaid i fyfyrwyr Meddygol a Nyrsio roi copi o'u llythyr Hysbysu am Fwrsariaeth y GIG er mwyn i ni asesu a ydynt yn gymwys am gyllid Ehangu Cyfranogiad.
Bwrsariaeth Santander
Mae Bwrsariaethau Santander yn gyfyngedig. Dim ond myfyrwyr sy'n gymwys am Ehangu Cyfranogiad all wneud cais. Mae meini prawf Ehangu Cyfranogiad ychwanegol ar gyfer y fwrsariaeth hon:
- Profiad Rhyngwladol Cyntaf
- Profiad gwaith cyntaf ar lefel broffesiynol / prifysgol
Gellir dyfarnu'r fwrsariaeth hon yn ychwanegol at Fwrsariaeth Cyfleoedd Byd-eang neu Fwrsariaeth Partneriaeth Strategol Texas yn unig. Rhaid i fyfyrwyr ddarparu datganiad personol ar eu Ffurflen Gais Bwrsariaeth Cyfleoedd Byd-eang er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y fwrsariaeth ychwanegol hon.
Ffynonellau Cyllid Allanol
Sefydliad Americanaidd-Brydeinig Tecsas (BAFTX) - hyd at $5,000
Sefydlwyd Sefydliad Americanaidd-Brydeinig Tecsas (BAFTX) i helpu i ddarparu cymorth ariannol a chyfleoedd addysgol i fyfyrwyr â galluoedd academaidd arbennig yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Mae'n cynnig rhaglen ysgoloriaeth ddynodedig i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy'n cymryd rhan yn rhaglen gyfnewid ddwyochrog y Brifysgol gyda Phrifysgol A&M Tecsas a Phrifysgol Houston. Roedd ysgoloriaethau 2018-19 yn werth hyd at $5,000. Y dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau i BAFTX yn 2019/20 yw 31 Mawrth; fel arfer, bydd y dyddiad cau ar ddiwedd mis Mawrth bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth a lawrlwytho ffurflen gais, ewch i: https://www.swansea.ac.uk/texas/student-mobility/baftx/
BUTEX Scholarship - £500
Ysgoloriaeth BUTEX - £500
Mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i fyfyrwyr sy'n mynd ar semester neu flwyddyn dramor mewn gwlad tu allan i Ewrop ac nad ydyn nhw'n gymwys i gael cyllid Erasmus. Er mwyn gwneud cais, mae angen i chi naill ai ateb cwestiwn traethawd NEU ddylunio poster a'i gyflwyno cyn 15fed Mehefin 2020 - bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu erbyn diwedd mis Hydref. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion ar sut i wneud cais ar wefan BUTEX.
Cymhwysedd
- Rhaid bod myfyrwyr wedi cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe
- Ni all myfyrwyr fod yn eu blwyddyn astudio olaf
- Gall myfyrwyr ôl-raddedig gyflwyno cais am gyllid ond rhaid darparu tystiolaeth bod eu goruchwyliwr academaidd yn cymeradwyo eu bod yn cymryd rhan.
- Dylai myfyrwyr rhyngwladol siarad â Rhyngwladol@BywydCampwsi wirio effaith y lleoliad gwaith ar eu fisa Llwybr Myfyrwyr
Teithiau Maes Coleg a Chyrsiau Dewis Meddygaeth
Ar hyn o bryd mae gan Brifysgol Abertawe gyfyngiadau ar deithio rhyngwladol. Cysylltwch â'ch coleg i gael mwy o wybodaeth.
Rhaglenni Haf
Oherwydd y sefyllfa fyd-eang bresennol, mae Prifysgol Abertawe wedi canslo rhaglenni haf sydd i fod i ddigwydd yn 2020. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn newyddion siomedig i lawer, fodd bynnag, lles ein myfyrwyr yw ein prif bryder. Mae tîm Mynd yn Fyd-Eang wedi cysylltu â'r holl fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais am arian tuag at raglen haf. Os ydych chi'n fyfyriwr sydd wedi cael eu heffeithio a hoffech gael cymorth pellach, cysylltwch â ni.