Mae gallu teithio i ben draw'r byd fel rhan o'ch gradd ym Mhrifysgol Abertawe yn gyfle heb ei ail. Mae Awstralia yn gartref i tua phum miliwn o bobl ac mae tua 80% ohonynt yn byw ar yr arfordir dwyreiniol. Gan fod Awstralia wedi'i lleoli yn hemisffer y de, mae mis Mehefin tan fis Awst yn fisoedd y gaeaf ac mae mis Rhagfyr tan fis Chwefror yn fisoedd yr haf. Y gaeaf yw'r tymor sych yn y trofannau, a'r haf yw'r tymor gwlyb. Prin fod angen dweud bod Oz yn gyrchfan ardderchog i fyfyrwyr dreulio blwyddyn yn astudio, yn teithio ac yn cwrdd â phobl newydd.
Mae Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â:
- Prifysgol Technoleg Queensland
- Prifysgol De Cymru Newydd
- Prifysgol Newcastle
- Prifysgol Canberra
BLWYDDYN ACADEMAIDD: Mae'r flwyddyn academaidd yn Awstralia i'r gwrthwyneb i’r flwyddyn academaidd yn y DU - mae'n dechrau yn semester 2 ac yn gorffen ar ôl semester 1. Dim ond y myfyrwyr hynny nad oes ganddynt arholiadau i'w hailsefyll sy'n gallu cwblhau blwyddyn dramor yn Awstralia - gan fod y tymor yn dechrau'n gynharach ym mis Gorffennaf - Awst.
Fisâu: Bydd angen Fisa Myfyriwr arnoch a bydd yn ofynnol i chi gyflwyno tystiolaeth ariannol o o leiaf AUS$31,710, yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2024-2025 (gall hyn newid). Y ffi cyflwyno cais am fisa yw oddeutu AUS$1600. Bydd eich prifysgol letyol yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y broses cyflwyno cais. Rhaid i chi ganiatáu digon o amser i gwblhau'r cais am fisa ac i'ch fisa gael ei hanfon atoch chi. Gall fod oedi sylweddol felly peidiwch â gadael hyn tan y funud olaf gan na fydd modd i chi deithio i Awstralia hebddi.
YSWIRIANT IECHYD:Un o amodau eich fisa yw eich bod yn prynu’r Yswiriant Iechyd i Fyfyrwyr Tramor (OSHC) gorfodol. Cewch ragor o wybodaeth gan eich prifysgol letyol pan gewch eich derbyn.