Campws QUT

Mae Prifysgol Technoleg Queensland (QUT) yn ninas arfordirol drefol Brisbane, Queensland. Gelwir Queensland yn “nhalaith heulwen” Awstralia, ac ar gyfartaledd mae’n cael 261 diwrnod o heulwen bob blwyddyn gyda’i hafau cynnes a’i gaeafau mwyn. Yn un o brifysgolion blaenllaw Awstralia, mae QUT yn falch o’i chyfleusterau o’r radd flaenaf, staff addysgu o safon fyd-eang a’i golwg ar y byd. Ni chewch fyw ar y campws, ond mae digonedd o lety ar gael yn y ddinas.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

PWY SY'N GALLU ASTUDIO YMA?

Mae gan Brifysgol Abertawe bartneriaeth prifysgol gyfan â'r brifysgol hon sy'n golygu ei bod yn agored i’r holl feysydd pwnc gan eithrio Hanes, y Clasuron, Llenyddiaeth Saesneg, Iaith Saesneg, Troseddeg, Cymdeithaseg, Polisi Cymdeithasol, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Athroniaeth, y Gyfraith, Mathemateg neu Ddaearyddiaeth.

Nid yw lleoedd wedi'u gwarantu, gall fod nifer cyfyngedig ohonynt ac mae pob myfyriwr ar semester neu flwyddyn dramor yn ddarostyngedig i broses ddewis gystadleuol prifysgol gyfan.

GWYBODAETH BWYSIG

BLWYDDYN ACADEMAIDD: O ganol mis Gorffennaf i ganol mis Mehefin

COST: Bydd y gost o fyw yn Brisbane yn amrywio gan ddibynnu ar eich llety dewisol a'ch ffordd o fyw. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar gostau byw misol yn y canllaw QUT Study Abroad.

FISA: Unwaith eich bod wedi cael eich derbyn gan QUT, byddwch yn derbyn Cadarnhad Cofrestru electronig (eCoE). Byddwch angen hwn i gyflwyno cais am eich fisa myfyriwr Awstralia. Defnyddiwch eich eCoE i wneud cais am eich fisa myfyriwr Awstralia ar-lein drwy eich Llysgenhadaeth neu Swyddfa Is-gennad Awstralia dramor agosaf. Rhaid i chi ganiatáu digon o amser i gwblhau'r cais am fisa ac i'ch fisa gael ei hanfon atoch chi. Gall fod oedi sylweddol felly peidiwch â gadael hyn tan y funud olaf oherwydd na fydd modd i chi deithio i Awstralia hebddi. 

LLETY: Mae llety ar y campws ac oddi ar y campws ar gael gydag ystod o opsiynau.

YSWIRIANT IECHYD: Bydd angen i chi brynu Yswiriant Iechyd Myfyriwr Dramor am hyd eich amser yn QUT. Byddan nhw'n darparu mwy o wybodaeth am hyn pan fyddant yn cadarnhau eich lle. Gall QUT drefnu eich Yswiriant Iechyd Myfyriwr Dramor drwy eu darparwr a ffefrir, Medibank.

DOLENNI DEFNYDDIOL: