Mae unrhyw gyfeiriad at gostau, ffioedd, tystiolaeth ariannol a gwybodaeth am fisâu at ddibenion arweiniad cyffredinol yn unig ac yn amodol ar newid ar unrhyw adeg.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at wybodaeth a ddarperir gan brifysgolion lletyol a thudalennau gwe llywodraeth/llysgenhadaeth y wlad dan sylw am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Lleolir Prifysgol Acadia yn Wolfville Nova Scotia ac mae’n edrych dros Ddyffryn Annapolis a Bae Fundy. Taith fer ydyw i Halifax sef prifddinas y dalaith. Mae’r tymereddau’n amrywio yn yr ugeiniau pan fyddwch yn cyrraedd ac mae’n cyrraedd -25 yn y gaeaf; byddwch yn sicr yn profi ystod tymheredd eang a digon o eira yn y gaeaf.Mae Acadia’n gyson yn cyrraedd y brig ymysg y prifysgolion gorau am astudiaethau israddedig yng Nghanada. Rhoddir pwyslais mawr ar chwaraeon yn Acadia, ac mae ei thimau Varsity yn ennill mwy o bencampwriaethau cenedlaethol nag unrhyw brifysgol arall yng Nghanada Atlantig. Os hoffech brifysgol fach gydag ymdeimlad mawr o gymuned, yna dyma’r brifysgol i chi!Fel arfer caiff myfyrwyr lety ar y campws – gellir cael gwybodaeth am lety yma.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.
Stori Myfyriwr
