Mae Prifysgol New Brunswick (UNB) yn Fredericton, sef prifddinas New Brunswick, nepell o Prince Edward Island, Nova Scotia a’r ffin ag UDA. Mae’r tymheredd o gwmpas 26 Celsius ar gyfartaledd yn yr haf a -16 Celsius yn y gaeaf, a cheir eira rhwng mis Rhagfyr a mis Ebrill. Mae UNB yn cynnig rhaglenni ardderchog, ac mae’n rhoi profiad o brifysgol fach i sicrhau bod myfyrwyr yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Gyda dros 120 o glybiau a chymdeithasau a phreswylfeydd, cynigir y cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn chwaraeon yn y brifysgol – felly mae rhywbeth i’ch cadw’n brysur y tu hwnt i’ch astudiaethau. Fel arfer caiff myfyrwyr lety ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Stori Myfyrwyr

Myfyrwyd gyda fflag