ASTUDIODD KATHERINE FFISEG A THREULIODD FLWYDDYN YM MHRIFYSGOL WILFRID LAURIER

Ar gyfer fy mlwyddyn dramor, treuliais 8 mis yn astudio yn nhref fach Waterloo yn Ontario, Canada. Roedd byw dramor yn rhywbeth yr oeddwn i bob amser am ei wneud, ac felly roedd yn nod yn hytrach na chyfrwng i mi. Ond pe tasai gen i nod ar gyfer fy nghyfnod dramor, yn fwy na thebyg fy nod fyddai 'gwneud pethau na fyddwn i wedi'u gwneud fel arall'. Hynny yw, mae hyn yn weddol amlwg, gobeithio - wedi'r cwbl, beth yw'r pwynt mynd i rywle arall os ydych chi'n mynd i esgus ei fod yn union fel eich lle genedigol?  - ond hefyd mae'n fater o agwedd, nid yn unig pethau a oedd yn bosibl yn ffisegol yng Nghanada yn unig. A fyddwn i'n mynd ar daith ar fy mhen fy hun cyn fy mlwyddyn dramor? Byddwn i'n meddwl amdano, a byddwn i am ei wneud, ond rydw i'n amau y byddai erioed wedi cyrraedd y cam cynllunio. A oeddwn i'n mynd i wneud hynny yng Nghanada? Wrth gwrs!

Felly, pa adegau gwych a gefais yno? Byddai'n rhaid imi ddweud, pe taswn i'n llym iawn am ddewis un ffefryn yn unig, y byddai'n rhaid imi ddewis y daith a gymerais gyda dau ffrind i Barciau Cenedlaethol Banff a Jasper. I'r rhai nad ydynt yn gwybod, mae'r rhain yn barciau cenedlaethol yng ngorllewin Canada sy'n enwog am fynyddoedd, eira, llynnoedd ac eirth. Dyna'r lle mwyaf hardd rydw erioed wedi bod, ac nid ar chwarae bach rydw i'n dweud hyn. Yn benodol, mae ffordd o'r enw'r Icefields Parkway sy'n cysylltu'r ddau barc, sy'n dipyn o ffordd dwristaidd mewn gwirionedd. Ond bob deng munud, byddai golygfan annisgwyl a byddai fy ffrindiau a minnau'n gadael y ffordd ac yn syllu, neu'n cymryd lluniau, neu'n mynd am dro am ddeng munud i lawr llwybr llawn eira ac yna'n syllu ac yn cymryd lluniau. Does dim angen dweud, ni fyddwn wedi mynd ar y daith honno oni bai am fy mlwyddyn dramor.

Mae llawer o bethau eraill y byddwn i wrth fy mod yn siarad amdanynt. Fy nhaith i Ddinas Quebec (y daith ar fy mhen fy hun yr oeddwn i wedi sôn amdani o'r blaen), er enghraifft, yn ogystal â chymaint rydw i'n dwlu ar Toronto, a'r holl deithiau eraill a gymerais i gyda’m ffrindiau. Yna mae'r pethau pob dydd sydd, yn fy marn i, yn wahaniaeth rhwng ymweld â rhywle a byw yna, fel mynd i'r archfarchnad pan fydd y tywydd yn -25°C, gwylio'r hoci a dathlu'r Oktoberfest (sy'n fawr iawn yn Waterloo, a chafodd ei agor gan Justin Trudeau). Ond ar ddiwedd y dydd, efallai mai'r cwestiwn allweddol yw: a wnes i bethau na fyddwn wedi'u gwneud yn y DU? Ac i ateb, rwy'n credu y byddai'n rhaid imi ddweud 'do'. 

Katherine Clarke