Mae IMT Atlantique yn un o'r ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw yn Ffrainc, gyda thri champws yn Brest, Rennes a Nantes a leolir yng ngogledd-orllewin Ffrainc yn Llydaw a Dyffryn Loire. Mae addysgu ar gael yn Saesneg ar y tri champws, felly byddai angen i chi gadarnhau pa fodiwlau sydd fwyaf addas ar y tri champws cyn penderfynu ar yr opsiwn sydd orau i chi. O ran llety, caiff pob myfyriwr gyfle i fyw mewn neuadd breswyl ar y campws, ac mae amrywiaeth eang o ystafelloedd ar gael.
