Lleolir Prifysgol Hong Kong y Bedyddwyr (HKBU) yn rhanbarth Kowloon Tong Hong Kong. Mae’r haf yn Hong Kong yn hir, yn boeth ac yn llaith ac mae’r gaeafau’n fwyn iawn yn gyffredinol; fodd bynnag, ceir awel oer y môr. Gellir cael teiffwnau  yn Hong Kong rhwng mis Mehefin a mis Medi. Mae meintiau’r dosbarthiadau yn HKBU yn fach sy’n golygu y gall myfyrwyr gael profiad dysgu sydd wedi’i bersonoli’n fwy. Ceir dros 80 o gymdeithasau a chlybiau y gallwch gymryd rhan ynddynt.  Caiff myfyrwyr fynediad at lety ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.